Adroddiad Ansawdd Archwilio 2024

Meithrin Ymddiriedaeth a Hyder Parhaus mewn Ansawdd

Adroddiad Ansawdd Archwilio hwn yn amlinellu ein trefniadau ansawdd archwilio a’n hymrwymiad diwyro i ddarparu a buddsoddi mewn gwasanaethau archwilio o ansawdd da.

Mae’n rhoi darlun eglur i’r cyrff a archwilir gennym, y cyhoedd yn gyffredinol a’r Pwyllgor Cyllid o’r mesurau cadarn a roddir ar waith gennym i sicrhau’r lefelau uchaf o uniondeb a rhagoriaeth.

Mae’r adroddiad yn manylu ar ganlyniadau ein gweithgareddau monitro ar gyfer sampl o archwiliadau o gyfrifon sy’n ymwneud â blwyddyn ariannol 2022-23, ynghyd â sampl o adroddiadau archwilio perfformiad a gyhoeddwyd ym mlwyddyn galendr 2023 ac yn gynnar ym mlwyddyn galendr 2024.

Gweler yr adroddiad llawn yma

Meithrin Ymddiriedaeth a Hyder Parhaus mewn Ansawdd

Yn nhirwedd y sector cyhoeddus heddiw, sy’n esblygu’n gyflym, ni ellir gorddatgan pwysigrwydd ansawdd archwilio. 

Mae’r sector cyhoeddus, cwmnïau’r DU ac unigolion ar draws cymdeithas yn dal i wynebu tryblith ac ansicrwydd mawr: o newid hinsawdd i darfu digidol; o bwysau sylweddol ar gyllid cyhoeddus i olion gweddilliol chwyddiant a chyfraddau llog uchel; ac, o’r newid pwyslais gan lywodraeth newydd y DU i ansicrwydd etholiadau yng Nghymru a diwygio’r Senedd yn 2026.

Adrian Crompton Archwilydd Cyffredinol Cymru
Dr Ian J Rees Cadeirydd y Bwrdd

Datblygu Map Ffordd ar gyfer Llwyddiant Parhaus

Fy rôl i fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio yw sefydlu trefniadau i gyrraedd y safonau uchaf o ran arfer proffesiynol rhyngwladol a chreu amgylchedd y gall ansawdd archwilio ffynnu ynddo. 

Yn erbyn cefnlen newidiadau sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf i’n dulliau archwilio, roeddwn wrth fy modd gyda deilliant canlyniadau adolygu ffeiliau QAD gyda 100% o’r ffeiliau a adolygwyd yn cyrraedd ein targed ansawdd.

Ann-Marie Harkin Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio

Cynnal ansawdd archwilio

Mae ansawdd archwilio’n greiddiol i bopeth y mae arnom eisiau ei gyflawni fel Archwilio Cymru a rhaid iddo aros felly. Mae'n hanfodol felly ein bod yn cynnal safonau uchel o ran ansawdd archwilio er mwyn inni ddiogelu a gwella ein safle fel llais awdurdodol, 
dibynadwy ac annibynnol. 

Rwy’n nodi yr adroddiad blynyddol y mae’n ofynnol i mi fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Corfforaethol, ac aelod o’n Pwyllgor Ansawdd Archwilio, ei ddarparu ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol a Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru ar:

  • effeithiolrwydd ein trefniadau ansawdd archwilio; a
  • digonolrwydd adnoddau a neilltuwyd i’r trefniadau hynny.

 

Kevin Thomas Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol