Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Adroddiad annibynnol gan Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corffoerathol
Rwy’n nodi isod yr adroddiad blynyddol y mae’n ofynnol i mi fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Corfforaethol, ac aelod o’n Pwyllgor Ansawdd Archwilio, ei ddarparu ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol a Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru ar:
Mae ansawdd archwilio’n greiddiol i bopeth y mae arnom eisiau ei gyflawni fel Archwilio Cymru a rhaid iddo aros felly. Mae'n hanfodol felly ein bod yn cynnal safonau uchel o ran ansawdd archwilio er mwyn inni ddiogelu a gwella ein safle fel llais awdurdodol, dibynadwy ac annibynnol. Felly, roeddwn wrth fy modd i gefnogi a chyfrannu at ein cynhadledd staff cyfan ym mis Ebrill eleni a oedd yn bwrw golwg ymlaen ac yn dwyn y teitl ‘Paratoi ar gyfer ein Dyfodol’, ac i dystio yn y gynhadledd i frwdfrydedd ac ymrwymiad eithriadol ein staff.
Credaf fod gennym drefniadau sydd wedi hen ennill eu plwyf i fonitro ansawdd ein gwaith archwilio, a'n bod yn gweithio'n barhaus i gryfhau'r trefniadau hynny. Rydym yn parhau i weithio gydag Adran Sicrhau Ansawdd (QAD) Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) hefyd i roi sicrwydd annibynnol angenrheidiol inni ynghylch ansawdd ein gwaith archwilio.
Yn ystod y flwyddyn, rwyf wedi arsylwi ein bod wedi parhau i wreiddio dulliau archwilio newydd i gefnogi trylwyredd ac effeithlonrwydd ein gwaith archwilio, a ategwyd gan raglen barhaus o hyfforddiant a chanllawiau gweithredu technegol. Rwyf hefyd wedi nodi cynnydd pellach sy'n cael ei wneud o ran rhoi ein system rheoli ansawdd ar waith wrth i ni ymegnïo i wreiddio’r safon rheoli ansawdd archwilio (ISQM 1)
Edrychaf ymlaen at fonitro'r datblygiadau hyn a datblygiadau eraill trwy'r Pwyllgor Ansawdd Archwilio.
Amlinellais yn ein Hadroddiadau Ansawdd Archwilio 2022 a 2023 fy mod yn falch o weld y cynnydd da a oedd yn cael ei wneud ar draws ystod o fentrau pwysig oherwydd ein buddsoddiad mewn ansawdd archwilio. Fodd bynnag, fel yr amlinellodd Suzanne yn ei hastudiaeth achos (paragraff 83), mae cyflymder y newid a lefel y newidiadau a disgwyliadau rheoleiddiol yn gosod gofynion ar ein trefniadau cymorth gyda galwadau cynyddol am fuddsoddi parhaus. Credaf ein bod yn cydnabod y pwysau hynny ac yn ceisio ymateb i’r gofynion hyn lle y bo hyn yn angenrheidiol. Tudalen 11 o 40 - Adroddiad Ansawdd Archwilio 2024 Ar y cyfan, er bod heriau parhaus yn bodoli, credaf ein bod mewn sefyllfa dda i barhau i wneud cynnydd. Fodd bynnag, byddaf yn parhau i fonitro digonolrwydd ein trefniadau esblygol a'r adnoddau a neilltuir i gefnogi'r trefniadau hynny, ac i herio ac adrodd ar hynny fel y bo angen.
Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corffoerathol