Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Rhagair gan Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio
Fy rôl i fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio yw sefydlu trefniadau i gyrraedd y safonau uchaf o ran arfer proffesiynol rhyngwladol a chreu amgylchedd y gall ansawdd archwilio ffynnu ynddo.
Yn erbyn cefnlen newidiadau sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf i’n dulliau archwilio, roeddwn wrth fy modd gyda deilliant canlyniadau adolygu ffeiliau QAD: gyda 100% o’r ffeiliau a adolygwyd yn cyrraedd ein targed ansawdd.
Mae’r canlyniad hwn yn fwy aruthrol byth pan gaiff ei ystyried ochr yn ochr â’r heriau recriwtio a chadw yr ydym wedi’u profi yn ystod y cyfnod diweddar ynghyd â’n hawydd i ddychwelyd at amserlenni archwilio cyn y pandemig.
Mewn ymateb i’r heriau recriwtio yr ydym wedi’u profi rydym wedi bod yn llwyddiannus gan mwyaf o ran ehangu ein cynlluniau hyfforddeion a phrentisiaid ac o ran recriwtio i lenwi swyddi gwag. Mae hyn wedi gosod galwadau ychwanegol arnom i roi cymorth a hyfforddiant i gydweithwyr newydd, yr ydym yn buddsoddi ynddynt, sy’n dangos sut y mae’r tair llinell sicrwydd yn gweithredu gyda’i gilydd yn effeithiol.
Mae’r cyflawniadau hyn hefyd yn amlygu ymrwymiad, ymroddiad a phroffesiynoldeb ein staff, yr wyf yn ddiolchgar iawn amdanynt.
Roeddwn hefyd wrth fy modd ein bod wedi gallu cryfhau trefniadau ein Pwyllgor Ansawdd Archwilio trwy ehangu aelodaeth y Pwyllgor (o un i dri aelod annibynnol) gydag un o aelodau annibynnol y pwyllgor (Suzanne Jones) hefyd yn ymgymryd â rôl y Cadeirydd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i wneud cynnydd mewn nifer o agweddau eraill, gan gynnwys:
Un o’r prif uchafbwyntiau i ni fel sefydliad yn 2024 oedd gweld cymaint o gydweithwyr yn dod ynghyd ym mis Ebrill ar gyfer ein cynhadledd staff cyfan, ‘Paratoi ar gyfer ein Dyfodol’, gyda nifer o drafodaethau bywiog a diddorol am drefn y diwydiant archwilio yn y dyfodol.
Rwy’n llwyr gefnogi a chytuno ag uchelgais Ian ac Adrian i ni fod yn sefydliad sy’n dysgu ac yn un sy’n canolbwyntio ar ddatblygu ein defnydd o dechnolegau digidol gyda chymorth gweithlu ystwyth a medrus.
I’r perwyl hwnnw rydym wedi dechrau gwaith ar ‘fap ffordd’ datblygu archwilio. Bydd y ‘map ffordd’ hwn yn dwyn ynghyd ddatblygiadau sy’n effeithio ar ein gwaith archwilio a’r ymateb y mae ei angen, gan gynnwys datblygu sgiliau a thechnoleg ddigidol yn y dyfodol; meysydd lle gallai fod angen buddsoddi; ynghyd â’n strategaeth gwireddu manteision.
Gan adeiladu ar y llwyddiannau yr wyf wedi’u hamlinellu a llwyddiannau eraill, rwy’n llwyr grediniol y bydd y ‘glasbrint’ yr ydym wrthi’n ei ddatblygu’n helpu i wireddu’r uchelgais a ddisgrifir gan Ian ac Adrian yn eu rhagair hwy: ‘Meithrin Ymddiriedaeth a Hyder Parhaus mewn Ansawdd’
Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio