Meithrin Ymddiriedaeth a Hyder Parhaus mewn Ansawdd

Rhagair gan Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ian Rees, Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru

Yn nhirwedd y sector cyhoeddus heddiw, sy’n esblygu’n gyflym, ni ellir gorddatgan pwysigrwydd ansawdd archwilio.

Mae’r sector cyhoeddus, cwmnïau’r DU ac unigolion ar draws cymdeithas yn dal i wynebu tryblith ac ansicrwydd mawr: o newid hinsawdd i darfu digidol; o bwysau sylweddol ar gyllid cyhoeddus i olion gweddilliol chwyddiant a chyfraddau llog uchel; ac, o’r newid pwyslais gan lywodraeth newydd y DU i ansicrwydd etholiadau yng Nghymru a diwygio’r Senedd yn 2026.

Wrth wraidd ein hymrwymiad i bobl Cymru mae cred ddiwyro y bydd archwilio’n dal i fod â rôl sylweddol wrth ddwyn cyrff cyhoeddus Cymru i gyfrif yn wyneb yr heriau hyn: ymrwymiad a danategir gan egwyddorion ymddiriedaeth, hyder a thryloywder.

Mae’r rhageiriau i’n Hadroddiadau Ansawdd Archwilio dros y tair blynedd ddiwethaf yn croniclo’r broses o ddiwygio’r diwydiant archwilio a oedd yn yr arfaeth i ddechrau, ac y bu oedi sylweddol gyda hi’n ddiweddarach. Ym mis Gorffennaf 2024, fe gyhoeddodd y Llywodraeth newydd, trwy Araith y Brenin, ei bod yn bwriadu cyflwyno Bil Diwygio Archwilio a Llywodraethu drafft gerbron. Yn niffyg unrhyw fanylder sylweddol, nid yw’n glir sut y bydd deddf newydd yn effeithio’n uniongyrchol ar Archwilio Cymru.

Fodd bynnag, rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i roi’r arferion proffesiynol gorau ar waith yn ein holl waith i sicrhau bod ein hansawdd yn dal i fod o safon uchel; bod ein gwaith yn dal i gael effaith fawr; ac, fel sefydliad, ein bod yn parhau i gynnig gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. I wneud hyn, rydym ni felly’n creu bod rhaid i ni fod:

  • yn sefydliad sy’n dysgu: un sy’n agored i syniadau newydd; sy’n defnyddio prosesau ansawdd a phrosesau eraill i barhau i esblygu; ac sydd ag arweinyddiaeth sy’n atgyfnerthu dysgu – un sy’n cofleidio diwylliant o wella’n barhaus ac sy’n ein galluogi i addasu ac ymateb i’n tirwedd sy’n esblygu’n gyflym.
  • yn barod i fanteisio, yn fodlon manteisio ac yn gallu manteisio’n ddiogel ar ddatblygiadau technolegol ar draws amryw ffiniau digidol, gan gynnwys dadansoddeg data; deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol; ac awtomeiddio.
  • yn gallu ymgodymu â chymhlethdodau’r dirwedd archwilio fodern gyda gweithlu amrywiol, medrus ac ystwyth. Rhaid i ni allu denu, datblygu a chadw gweithlu a sicrhau ei fod yn cael cymorth da i ymateb i’r heriau yr ydym yn eu hwynebu.

Rydym yn dal i fod yn falch, fel y dylem fod, o’n model archwilio ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn ddiwyro yn ein hymrwymiad i ansawdd archwilio. Er mwyn i ni feithrin ymddiriedaeth a hyder parhaus mewn ansawdd rhaid i ni barhau â’n hymdrechion ac adnewyddu ein hymdrechion i gofleidio’r arfer o ddysgu’n barhaus; harneisio grym technoleg ddigidol; a buddsoddi yn ein gweithlu a’i ddatblygu.

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Ian Rees, Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru