Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Disgrifiodd ein Cynllun Blynyddol 2020-21 sut y byddem yn ceisio cael ystod ehangach o gynulleidfaoedd i ymgysylltu â chanlyniadau ein harchwiliadau blynyddol o gyrff cyhoeddus, ac mae ein sylwadau ar Gyfrifon Cyfunol 2019-20 Llywodraeth Cymru a’r ffeithlun yn dangos hyn.

    Mae sylwadau newydd yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi gwybodaeth allweddol ar gyfer y cyhoedd a’r rhai hynny sy’n gyfrifol am graffu.

    Mae’n sylwadau yn egluro’r broses gyfrifon ac yn ymhelaethu ar yr wybodaeth yn y Cyfrifon Cyfunol, sy’n elfen allweddol o atebolrwydd Llywodraeth Cymru i’r Senedd a’r cyhoedd. Mae hefyd yn defnyddio canlyniadau ein gwaith o archwilio materion yn ymwneud â threfniadau llywodraethu a gweinyddu Llywodraeth Cymru drwy ein rhaglen ehangach o waith archwilio.

    ,

    Amod

    Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn amodol ar gyfrifon 2019-20 gan fod hepgoriad perthnasol o ran gwariant yn ymwneud â rhai grantiau busnes y byddai busnesau yn eu cael mewn ymateb i bandemig Covid-19.

    Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â barn yr Archwilydd Cyffredinol ar y driniaeth gyfrifyddu a weithredwyd ac o’r herwydd, yn anghytuno â’r amod.

    Byddai cynnwys y gwariant hwn wedi dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na’i therfyn gwariant net awdurdodedig a gymeradwywyd gan y Senedd ar gyfer 2019-20 ac felly mae’n afreolaidd.

    ,
    Mae’n bwysig nodi bod yr amod wedi’i seilio ar y gofynion cyfrifyddu i gynnwys y gwariant hwn yng nghyfrifon 2019-20 ac nid yw’n farn ar natur y cyllid na’i werth am arian.
    ,

    Cyfrifon a COVID-19

    Mae pwysau sylweddol ar bob agwedd ar wasanaethau cyhoeddus, wrth i bob un ymdrin ag effaith a heriau COVID-19. Mae cynlluniau gwario yn cael eu diweddaru’n barhaus ac mae modelau darparu gwasanaethau yn cael eu hadolygu’n gyson.

    Bydd yr Archwilydd yn ystyried effaith y rhain ar ei archwiliad o Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Taflu goleuni ar gyfrifon 2019-20 Llywodraeth Cymru

    View more
CAPTCHA