Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Taflu goleuni ar gyfrifon 2019-20 Llywodraeth Cymru

23 Tachwedd 2020
  • Mae sylwadau newydd yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi gwybodaeth allweddol i’r cyhoedd a’r rhai hynny sy’n gyfrifol am graffu.

    Mae’r sylwadau yn crynhoi sut yr ariennir Llywodraeth Cymru, sut y mae’n gwario ei harian, yr hyn y mae’n berchen arno a’r hyn sy’n ddyledus ganddi. Mae hefyd yn esbonio amod yr Archwilydd Cyffredinol ar ei farn archwilio ar Gyfrifon Cyfunol 2019-20.

    Yn 2019-20, cynyddodd gwariant ‘grŵp’ Llywodraeth Cymru £1.2 biliwn (7%) o’i gymharu â 2018-19. Cyfanswm y gwariant yn 2019-20 oedd £17.5 biliwn. Roedd gan ‘grŵp’ Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys 17 o wahanol endidau, asedau o £30.4 biliwn ar 31 Mawrth 2020 ac roedd yn cario tua £3.7 biliwn mewn rhwymedigaeth ac ymrwymiadau. Mae’r sylwadau yn darparu rhagor o fanylion.

    Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn amodol ar gyfrifon 2019-20. Roedd hyn o ganlyniad i hepgor gwariant o bwys yn ymwneud â grantiau penodol y byddai busnesau yn eu derbyn mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae hyn wedi codi oherwydd anghytundeb â Llywodraeth Cymru ar fater cyfrifyddu technegol cymhleth. Byddai cynnwys y gwariant wedi dangos bod yn ei farn ef Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na’i therfyn gwariant net awdurdodedig a gymeradwywyd gan y Senedd ar gyfer 2019-20, gan wneud rhywfaint o wariant yn afreolaidd. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â safbwynt yr Archwilydd Cyffredinol ar y driniaeth gyfrifyddu a ddefnyddiwyd, ac felly â’r amod.

    Nid cyllid Llywodraeth Cymru yn unig y mae’r Cyfrifon Cyfunol yn eu disgrifio; maent hefyd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â sut y gweithredir Llywodraeth Cymru. Yn berthnasol i hyn, mae’r sylwadau yn darparu crynodeb o’r materion sy’n deillio o raglen waith ehangach yr Archwilydd Cyffredinol mewn meysydd sy’n cynnwys gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, cynllunio’r gweithlu, rheoli grantiau, trefniadau gwrth-dwyll a TGCh.

    ,
    Mae cyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol. Rwyf wedi paratoi’r sylwadau newydd hyn er mwyn dod â rhywfaint o hynny i’r amlwg, i hysbysu’r cyhoedd a’r rhai sy’n gyfrifol am graffu ar Lywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at wybodaeth allweddol am gyllid Llywodraeth Cymru a chanfyddiadau ein gwaith ehangach ar agweddau ar brosesau llywodraethu a gweinyddu Llywodraeth Cymru. Er fy mod wedi rhoi amod ar fy marn archwilio, o ganlyniad i’r driniaeth gyfrifyddu a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i rai grantiau busnes y mae hyn ac nid yw’n adlewyrchu safbwynt ar werth am arian cyffredinol y gwariant hwnnw. Er gwaethaf yr amod ar fy marn archwilio, yng nghyd-destun yr ansicrwydd a’r pwysau ehangach sy’n deillio o’r pandemig, mae’n deyrnged i bawb dan sylw bod y gwaith o baratoi ac archwilio’r cyfrifon wedi ei gwblhau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2020. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Disgrifiodd ein Cynllun Blynyddol 2020-21 sut y byddem yn ceisio ymgysylltu ag ystod ehangach o gynulleidfaoedd gyda chanlyniadau ein harchwiliadau blynyddol o gyfrifon cyrff cyhoeddus, ac mae’r sylwadau hyn ar Gyfrifon Cyfunol 2019-20 Llywodraeth Cymru yn dangos hyn.
    • Mae’r Cyfrifon Cyfunol yn cwmpasu Llywodraeth Cymru ‘graidd’ ac 16 o endidau eraill sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio ‘grŵp’ Llywodraeth Cymru (Arddangosyn 1 yn y sylwadau).
    • Ers hydref 2014, mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd wedi cyflwyno adroddiad blynyddol ar faterion sy’n codi o gyfrifon Llywodraeth Cymru ac fe wnaethant gyhoeddi’r adroddiad [agorir mewn ffenestr newydd] diweddaraf ynghylch Cyfrifon Cyfunol 2018-19 ym mis Mai 2020.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am archwilio mwyafrif yr arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru yn flynyddol, gan gynnwys yr £20 biliwn o gyllid y pleidleisir arno bob blwyddyn gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o’r arian hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn destun cyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na’r llywodraeth. 
    • Corff corfforaethol sy’n cynnwys naw aelod bwrdd statudol yw Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr i’r Bwrdd ac yn Swyddog Cyfrifyddu. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol o ran sut y mae’n arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw enw ambarél Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw’n endid cyfreithiol ynddo ei hun.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Sylwadau ar Gyfrifon Cyfunol 2019-20 Llywodraeth Cymru

    Gweld mwy