Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
A oedd y newid i wasanaeth mewnol yn cael ei reoli'n dda ac ar y trywydd iawn i sicrhau'r buddion a fwriadwyd?
Mae'r prosiect cyflenwi mewnol wedi cael ei reoli'n dda a'i gyflawni'n brydlon. Mae rhai buddion yn cael eu cyflawni, ond nid yw'r buddion llawn wedi'u gwireddu eto.
Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar gyflenwi gwasanaeth TGCh Llywodraeth Cymru yn fewnol ar ôl blynyddoedd o’i gyflewni’n allanol.
Roedd yr achos busnes i gyflenwi gwasanaethau TGCh yn fewnol yn gynhwysfawr ac yn nodi amcanion clir, gyda chymysgedd o fuddion ariannol a rhai nad ydynt yn ariannol.
Cyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru ar wasanaethau TGCh oedd £13.9 miliwn yn 2019-20 a'r gyllideb ar gyfer y prosiect cyflenwi mewnol oedd £12.7 miliwn dros ddwy flynedd. Cynlluniwyd £8.1 miliwn o arbedion yn 2019-20, ond dim ond £4.9 miliwn o arbedion a gyflawnwyd.
Mae rhai, ond nid pob un, o'r buddion nad ydynt yn ariannol yn cael eu cyflawni, er ei bod yn anodd barnu llwyddiant gan nad osododd Llywodraeth Cymru dargedau penodol ar gyfer y rhain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd tuag at sicrhau buddion nad ydynt yn ariannol, megis datrys problemau mynediad o bell, lleihau allyriadau carbon (nad ydynt wedi'u rhestru'n benodol yn yr achos busnes) a gweithio hyblyg, er enghraifft, ond mae angen gwelliannau ychwanegol.
Mae cyflwyno gliniaduron newydd i bob un o'r 6,000 o ddefnyddwyr TGCh erbyn mis Tachwedd 2019 wedi galluogi gweithio hyblyg a gweithio cartref yn ystod pandemig COVID-19.
Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer costau teithio is yn 2019-20 a disgwylir arbedion sylweddol yn y dyfodol o ran costau teithio a chynhaliaeth, yn bennaf oherwydd y pandemig a gweithio hyblyg. Fodd bynnag, bydd costau ychwanegol hefyd yn gysylltiedig â chynorthwyo staff wrth iddynt weithio cartref.