Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Roedd y prosiect cyrchu mewnol yn cynrychioli newid arwyddocaol ar ôl blynyddoedd lawer o ddarparu TGCh drwy gontract allanol ac mae'n cyd-fynd yn dda â rhaglen foderneiddio TGCh ehangach y llywodraeth.
Sicrhawyd arbedion a rheolwyd risgiau i sicrhau cyflawni ar amser, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi arbed cymaint â'r disgwyl ac mae lle i wella'r broses o olrhain costau a buddion.
Yn 2017, penderfynodd Llywodraeth Cymru symud oddi wrth fodel TGCh ar gontract allanol i fodel cyrchu mewnol i raddau helaeth, gan ddechrau ym mis Ionawr 2019. Roedd yr achos busnes i gyrchu TGCh yn fewnol yn gynhwysfawr ac yn nodi amcanion clir, gyda chymysgedd o fuddion ariannol a rhai heb fod yn ariannol.
Er mwyn helpu i gyflawni'r newid hwn, ymchwiliodd Llywodraeth Cymru anghenion ei staff, dysgu gan sefydliadau eraill a siarad â Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU i gael cyngor.
Roedd arbedion yn rhan sylfaenol o'r achos busnes i ddod â gwasanaethau TGCh yn fewnol. Arbedwyd oddeutu £4.9 miliwn yn 2019-20, ond nid yr £8.1 miliwn llawn a ragwelwyd. Roedd y diffyg hwn yn bennaf oherwydd costau meddalwedd cynyddol a chostau ychwanegol i gontractwyr o ganlyniad i swyddi heb eu llenwi.
Yn ogystal ag arbedion, bu cyflwyno 6,000 o liniaduron newydd erbyn diwedd 2019 yn hollbwysig i helpu staff i weithio gartref yn ystod pandemig COVID-19. Cyfrannodd hyn at ostyngiad o £23,000 mewn costau teithio yn 2019-20, a disgwylir gostyngiadau llawer mwy yn 2020-21. Roedd buddion eraill nad oeddynt yn rhai ariannol yn cynnwys lleihau allyriadau carbon drwy lai o argraffu a chau canolfan ddata.
Mae nifer y digwyddiadau TGCh difrifol wedi gostwng yn raddol ers trosglwyddo i wasanaeth mewnol, ac mae boddhad defnyddwyr â gwasanaethau TGCh wedi gwella. Fodd bynnag, bu gostyngiad ym mherfformiad desg gwasanaeth TGCh, sydd yn fwyaf tebygol oherwydd diffyg staff.
Mae'r argymhellion yn canolbwyntio ar wella'r broses o olrhain buddion a chostau, diweddaru'r dangosyddion perfformiad ar gyfer gwasanaethau TGCh, ac ailedrych ar lefelau staffio er mwyn sicrhau bod buddion llawn y newid hwn yn cael eu gwireddu.
Mae'n dda gallu adrodd mewn modd cadarnhaol am raglen newid TGCh sydd wedi gwasanaethu Llywodraeth Cymru yn dda gan ei bod wedi wynebu'r her o ffordd wahanol o weithio mewn ymateb i bandemig COVID-19. Fodd bynnag, nid yw'r gwaith wedi'i gwblhau ac mae angen cymryd camau pellach i sicrhau'r holl fuddion a fwriedid, i fynd i'r afael â'r pwysau a achoswyd gan ddiffyg staff, ac i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.