Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fe wnaethom ystyried sut y mae dull trawsnewid digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o gymorth i wella gwasanaethau.
Mae gan y Bwrdd Iechyd ddull eglur ac uchelgeisiol lle mae trawsnewid digidol yn y cwestiwn, a ategir gan arweinyddiaeth gref a chynllun strategol sefydledig. Mae goruchwyliaeth y Bwrdd ar drawsnewid digidol yn effeithiol, ond gallai sicrwydd gael ei gryfhau trwy gyfuno gwybodaeth am ddeilliannau ac effaith ymgysylltu ar draws prosiectau digidol. Er bod y Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i fuddsoddi mewn trawsnewid digidol, fel a ddangosir trwy ei bartneriaeth strategol 10 mlynedd gydag arbenigwr allanol, mae cyllid cyfyngedig yn creu risg i gyflawni blaenoriaethau strategol.
Mae’r Bwrdd Iechyd wrthi’n cyflawni ystod o brosiectau lleol a chenedlaethol, gyda’i fap trywydd trawsnewid digidol tair blynedd yn amcanu at wella deilliannau ar gyfer cleifion, profiad staff, a llywio cynaliadwyedd ariannol. Mae gan y Bwrdd Iechyd hefyd ddull da o werthuso prosiectau digidol a thracio eu manteision.
Mae trefniadau rheoli risg ar gyfer seilwaith digidol a seiberddiogelwch wedi datblygu’n dda, gyda goruchwyliaeth glir. Fodd bynnag, mae trefniadau llywodraethu ar gyfer defnyddio Deallusrwydd Artiffisial ar draws y Bwrdd Iechyd yn dal mewn cam cynnar.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd o ran deall a gwella sgiliau digidol trwy hyfforddiant wedi’i dargedu, llwybr sgiliau, a mentrau cynhwysiant digidol. Er gwaethaf y camau cadarnhaol hyn, mae hyder digidol yn amrywio ar draws y gweithlu, ac mae diffyg cynllun gweithlu digidol ar ei ben ei hun yn wendid amlwg wrth i drawsnewid digidol gyflymu.
Mae’r sefydliad yn dangos ymrwymiad cryf i gynhwysiant digidol a gweithio mewn partneriaeth, gan gyfrannu’n frwd at raglenni cenedlaethol a rhanbarthol. Mae ymgysylltiad â staff a defnyddwyr gwasanaethau’n gwella trwy arweinwyr gwybodeg glinigol, hyrwyddwyr digidol, a gweithdai dylunio.