Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Strategaeth Ddigidol wedi dyddio, ac mae’r Bwrdd Iechyd wrthi’n diweddaru hon, gyda’r nod y bydd y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau erbyn mis Mai 2026. Er gwaethaf hyn, mae’r Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd cyson o ran cyflawni agweddau ar ei raglen ddigidol leol, a ategir gan arweinwyr ymrwymedig. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn mabwysiadu datblygiadau digidol cenedlaethol sy’n helpu i roi cymorth i foderneiddio gwasanaethau. Mae angen mwy o fuddsoddiad i gyflawni trawsnewid digidol yn effeithiol ar y raddfa a’r cyflymder sy’n ofynnol. 
    Mae angen i’r Bwrdd wella ei oruchwyliaeth ar ei brosiectau trawsnewid digidol lleol ac ehangu hyn i gael sicrwydd ynghylch y cynnydd ar weithio rhanbarthol. Er bod gan y Bwrdd oruchwyliaeth dda ar risgiau digidol a deallusrwydd artiffisial, mae angen bod goruchwyliaeth gryfach ar ba mor dda y mae’r Bwrdd Iechyd yn rheoli risgiau seiber. Mae trefniadau seibergadernid wedi hen ennill eu plwyf ond byddai o fudd iddynt pe bai cynllun seibergadernid manwl yn bodoli. 
    Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau digidol ond mae angen iddo fynd ati’n well i asesu gallu digidol ar draws y sefydliad. Cyfyngedig yw’r capasiti i gefnogi hyfforddiant digidol, a byddai o fudd i’r Bwrdd Iechyd pe bai cydweithio cryfach yn digwydd rhwng timau’r gweithlu a digidol i ymdrin â’r mater hwn. Nid oes gan y Bwrdd Iechyd ddull strategol lle mae cynhwysiant digidol yn y cwestiwn, ac nid oes arweinydd dynodedig ar gyfer hynny.
    Mae’r Bwrdd Iechyd yn dangos ymgysylltiad cryf â phartneriaid digidol gan gynnwys Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Llywodraeth Cymru. Mae gan y Bwrdd Iechyd hefyd ddull cryf o wireddu manteision. Fodd bynnag, megis dechrau y mae gweithio rhanbarthol gyda phartneriaid.

CAPTCHA