
-
Arallgyfeirio Incwm ar gyfer Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng…
-
Dulliau o sicrhau sero net ledled y DU
-
Llamu Ymlaen: Gwersi o'n gwaith ar y gweithlu ac asedau
-
Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at Mawrth 2023
-
Methiannau mewn rheolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu –…
Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn wynebu heriau cyllidebol sylweddol. Yn ychwanegol at alwadau a disgwyliadau cynyddol, mae cyflawni eu swyddogaethau allweddol yn anodd.
Yn ystod 2022-2023, fe gyhoeddom ni dri adroddiad ar sut y mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru’n arallgyfeirio’u ffrydiau incwm i helpu i gyflawni eu dibenion statudol. Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar rai o'r themâu allweddol sy’n effeithio ar y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a faint y mae Awdurdodau’n arallgyfeirio eu hincwm.
Yr hyn a ganfuom
Canfu ein hadroddiad nad yw’r un o’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol wedi nodi strategaeth ar gyfer creu incwm, a bod angen gwneud mwy i’w wneud yn flaenoriaeth.
Canfuom hefyd fod pob un o’r tri Awdurdod yn ymwybodol bod ystyriaethau moesegol yn bwysig wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â ffrydiau incwm newydd; fodd bynnag, nid yw’r un o’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru wedi pennu eu terfynau ar gyfer dilyn y ffrydiau incwm newydd hyn.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi rhestri gwirio hunanasesu i Awdurdodau eu defnyddio i adnabod eu cryfderau a’u gwendidau.
Related News
