Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Archwilio Cymru yn pwysleisio arallgyfeirio incwm i gefnogi cydnerthedd ariannol awdurdodau'r parciau cenedlaethol

19 Medi 2023
  • Mae parhau i ddibynnu ar gyllid Llywodraeth Cymru sy’n lleihau yn peryglu tanseilio ymdrechion yr awdurdodau i ddiogelu mannau anadlu'r genedl.

    Mewn adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw, mae Archwilio Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i weithio gyda'i gilydd i nodi ffyrdd priodol o arallgyfeirio'r cyllid sydd ar gael er mwyn diogelu a hyrwyddo ein Parciau Cenedlaethol. Rydym hefyd wedi cyhoeddi adnodd hunanasesu i helpu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i lywio'r trawsnewidiad hwn a nodi sut orau i arallgyfeirio eu hincwm.

    Fel llawer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn wynebu heriau cyllidebol sylweddol. Ynghyd â gofynion a disgwyliadau cynyddol, mae cyflawni eu swyddogaethau allweddol yn fwyfwy anodd. Yn 2022-23, cyhoeddwyd tri adroddiad ar sut mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn arallgyfeirio eu ffrydiau incwm i gefnogi'r gwaith o gyflawni yn erbyn eu dibenion statudol. Mae ein hadroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn edrych ar rai o'r themâu allweddol sy'n effeithio ar y tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru ac i ba raddau y mae'r Awdurdodau yn arallgyfeirio eu hincwm.

    Rydym wedi canfod nad oes yr un o Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol wedi gosod dull strategol clir o arallgyfeirio incwm, ac mae angen rhagor o waith i wneud hyn yn flaenoriaeth. Mae ystyriaethau moesegol pwysig hefyd wrth werthuso opsiynau, ac mae angen i drefniadau llywodraethu fod yn ddigon ystwyth a chadarn i gefnogi gweithgarwch cynhyrchu incwm yn y dyfodol yn effeithiol.

    Mae ein hadroddiad yn tynnu ar enghreifftiau gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Lloegr, y mae rhai ohonynt wedi mentro i weithgaredd masnachol cynyddol i gefnogi gwasanaethau allweddol. Mae amrywio incwm yn llwyddiannus yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau adolygu eu portffolios asedau i nodi cyfleoedd addas. Mae hwn yn un o chwe bloc adeiladu allweddol y canolbwyntiodd ein hadolygiad arnynt. Gyda'i gilydd, gall y camau hyn helpu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i ddatgloi'r buddion a lliniaru rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig ag arallgyfeirio incwm.

    Wrth edrych i'r dyfodol, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd ystyried gwahanol ffynonellau cyllid, gydag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol mewn sefyllfa unigryw i adeiladu ar hanes cryf o weithio mewn partneriaeth i gyflawni prosiectau a ariennir gan grant. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol hefyd wrth gefnogi Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, yn ariannol ac o ran canllawiau a chyfarwyddyd, i helpu i gyflawni'r disgwyliadau a osodwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. 

    Ochr yn ochr â'n hadroddiadau, rydym wedi cyhoeddi rhestrau gwirio hunanasesu yr ydym yn argymell y dylai pob Awdurdod eu defnyddio i nodi eu cryfderau a'u gwendid. Bydd hyn yn helpu i lywio eu strategaethau yn y dyfodol ar arallgyfeirio incwm.

    ,
    Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn wynebu her anodd wrth ddarparu gyda llai o gyllid. Fel gwarcheidwaid tirweddau harddaf ein cenedl, mae'n bwysig eu bod yn cydbwyso'r angen i arallgyfeirio eu ffrydiau incwm â chyflawni eu dibenion craidd. Mae fy adroddiad heddiw yn crynhoi canfyddiadau ein hadolygiad ac yn cefnogi Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ar y daith hon. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Arallgyfeirio Incwm ar gyfer Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru

    Gweld mwy