Sgyrsiau Traws-Iwerydd - Theori Newid ar Fector gyda Dave Snowden Gan ddilyn ein sesiwn ddiwethaf, a gan barhau gyda'r them o fesur mewn byd cymhlyg, bydd ein sesiwn nesaf yn trafod Theori Newid ar Fector gyda Dave Snowden. Pan mae achos ac effaith yn amhosib eu dirnad, ac wrth geisio ynysu problemau mae'r clymau a'r berthynas rhwng ffactorau yn dod yn amlycach, mae pethau'n troi'n gymhlyg. Bydd modelau newid llinol sydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn cael trafferth bod yn effeithiol yn y fath gyd-destun; mae angen rhywbeth arall.