Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Pobl ifanc, cyfleoedd, ac iechyd meddwl yng Nghymru: Deall beth sydd y tu ôl i'r niferoedd cynyddol nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

10 Hydref 2026
  • "Rydyn ni mewn perygl o genhedlaeth goll. Mae hynny'n argyfwng moesol."

    Dyna'r rhybudd llym o adolygiad annibynnol diweddar Alan Milburn [Saesneg yn unig] o bobl ifanc a gwaith. Wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth y DU, mae'r adolygiad yn tynnu sylw at y nifer cynyddol o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a'r effaith barhaol y gall hyn ei gael. Mae hefyd yn archwilio'r costau cymdeithasol ac economaidd o beidio â gweithredu ar y mater hwn.

    Mae deall yr hyn sy'n digwydd i'r bobl y tu ôl i'r ffigurau yn bwysig. Nid un grŵp yn unig ydynt. Mae rhai yn chwilio am waith neu hyfforddiant, gydag eraill yn aros i ddechrau cwrs neu swydd.

    Mae’r niferoedd  o bobl ifanc nad yw mewn addysg nac yn chwilio am gwaith yn cynyddu. Yn gynharach eleni, adroddodd y Resolution Foundation [Saesneg yn unig] fod y rhan fwyaf o bobl 18 i 24 oed ar draws y DU sy'n NEET yn economaidd anweithgar. Mae hyn i’r gwrthwyneb o’r sefyllfa yn y 2010au pan oedd y mwyafrif yn ddi-waith ac yn chwilio am waith. I lawer, mae eu hiechyd, ac yn enwedig eu hiechyd meddwl, yn effeithio eu gallu i gymryd rhan: mae 28% yn anweithgar oherwydd salwch neu anabledd, mwy na dwbl y gyfran yn 2005.

    Gall yr effeithiau bara ymhell y tu hwnt i ieuenctid. Canfu ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain [Saesneg yn unig] fod pobl a oedd yn NEET am amser hir pan oeddent yn ifanc tua chwe gwaith yn fwy tebygol o fod allan o waith yng nghanol oed. Roeddent hefyd tair gwaith yn fwy tebygol o adrodd iechyd gwael na'r rhai nad oeddent erioed wedi bod yn NEET.

    Sut beth yw’r darlun yng Nghymru?

    Yn 2021, gosododd Llywodraeth Cymru garreg filltir genedlaethol y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.  

    Mae amcangyfrifon dros dro yn dangos mai 86.3% oedd y gyfradd o bobl ifanc nad oedd yn NEET yn 2024. Mae hyn 4% yn uwch nag yr oedd ddegawd yn ôl. Mae’n amcangyfrifo yr oedd bron i 9% o bobl ifanc yn economaidd anweithgar. Mae hyn yn cynrychioli 70% o’r holl bobl ifanc sy'n NEET o'i gymharu â 56% yn 2014.

    Er nad yw Cymru'n cyhoeddi data mwy manwl ar y rhesymau pam bod pobl ifanc yn NEET, mae tystiolaeth o Loegr yn awgrymu eu bod yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol na'u cyfoedion o brofi cyflyrau iechyd meddwl.  

    Mewn adroddiad diweddar, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod gan tua 135,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru gyflwr iechyd meddwl y gellir cael diagnosis amdano yn 2025. Mae hyn yn cynnwys un o bob pedwar person ifanc 17 i 24 oed. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd mewn anawsterau emosiynol, ymddygiadau hunan-niweidio, ac anhwylderau bwyta ar draws pob rhyw. Er bod pandemig COVID-19 wedi gwaethygu problemau, dechreuodd y dirywiad mewn iechyd meddwl ieuenctid cyn hynny, ac mae'n adlewyrchu tueddiadau sydd i’w weld ar draws llawer o wledydd datblygedig.

    Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at fwlch cynyddol rhwng y galw am gymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael. Rhybuddiodd am yr angen i gryfhau atal, ymyrraeth gynnar, a chefnogaeth amserol i fabanod, plant a phobl ifanc. Galwodd hefyd am weithredu cydgysylltiedig ar draws gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r galw cynyddol.

    O ystyried y tueddiadau hyn i gyd, mae'n codi cwestiynau pwysig i ni yng Nghymru. Sut mae iechyd meddwl gwael yn effeithio ar allu pobl ifanc i gadw mewn cysylltiad ag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant? Ac a oes dull effeithiol o ddarparu'r gefnogaeth gywir ac atal pobl ifanc rhag peidio ymgysylltu, neu eu helpu i ailgysylltu petaent yn gwneud hynny?

    Beth fydd Archwilio Cymru yn ei wneud?

    Rydym wedi edrych ar faterion sy'n ymwneud â phobl ifanc sy'n NEET o'r blaen, gan gynnwys mewn gwaith ehangach ar les pobl ifanc yng Nghymru yn 2019. Ym mis Tachwedd, byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiad ar ba mor dda y mae cynghorau yn cynllunio ar gyfer cwr ag anghenion plant sy’n derbyn gofal, grŵp sydd mewn risg llawer mwy sylweddol o ddod yn NEET.

    Rydym nawr am ddychwelyd i'r maes hwn o NEET. Rydym eisiau deall mwy am sut y mae pobl ifanc sy'n NEET, neu sydd mewn perygl o ddod yn NEET, yn cael eu cefnogi. Ac rydym am ddeall faint sy'n cael ei fuddsoddi yn y gwaith a sut mae'n helpu pobl ifanc. 

    ,
    Y tu ôl i'r ystadegau yma yw’r pobl ifanc hynny y gall eu dyfodol gael ei lywio gan y gefnogaeth y maen nhw'n ei dderbyn ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau. Er mwyn llwyddo, ni all Cymru fforddio golli’r talent a photensial cenhedlaeth. Rydym am ddeall pa mor dda mae'r system yn cefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o ddatgysylltu o addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, ac a yw gwasanaethau yn cydweithio i’w galluogi i ffynnu. Bydd profiadau pobl ifanc a rhanddeiliaid eraill yn helpu llywio'r gwaith hwn. Catherine Mealing-Jones, Archwilydd Cyffredinol Cymru