Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae angen i gyllid ar gyfer cynghorau Cymru fod yn gliriach, yn gynharach, ac yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol, meddai'r Archwilydd Cyffredinol

15 Gorffennaf 2026
  • Nid yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynghorau bob amser yn eu helpu i wneud y mwyaf o'r cyllid maen nhw'n ei gael

    Mae ein hadroddiad, a gyhoeddir heddiw, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei dull o ariannu cynghorau yn amserol, yn seiliedig ar wybodaeth gywir ac yn rhoi mwy o eglurder i gynghorau ynghylch y cyllid y maent yn debygol o gael yn y dyfodol. 
    Mae'r adroddiad Ariannu Cynghorau yn ystyried sut mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i’r 22 o brif gynghorau yng Nghymru. Mae cynghorau yn dibynnu'n helaeth ar y cyllid hwn i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'w cymunedau. 
    Mae ein hadroddiad yn esbonio nad yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid bob amser yn helpu cynghorau i gael gwerth am arian. Canfu bod angen amcangyfrifon cliriach ar gynghorau o ran faint o gyllid y gallent ei gael yn y dyfodol i'w helpu i wneud cynlluniau ariannol. Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar gynghorau a Llywodraeth Cymru i gynllunio ar gyfer gwahanol lefelau cyllid posibl, fel eu bod mewn sefyllfa well i ymateb pan fydd y lefelau cyllid yn cael eu cadarnhau. 
    Nid yw'r fformiwla a'r broses y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i ddyrannu'r rhan fwyaf o gyllid i gynghorau wedi cael eu hadolygu'n llawn ac yn annibynnol ers dros 20 mlynedd. Mae'r adroddiad yn nodi bod rhai dangosyddion a ddefnyddir yn y fformiwla yn dibynnu ar ddata o 1991 a 2001. Mae hyn er gwaethaf y newidiadau sylweddol ledled Cymru dros y cyfnod hwnnw. 
    Mae'r adroddiad yn esbonio y gall nifer, dyluniad ac amseriad grantiau greu aneffeithlonrwydd. Weithiau mae cynghorau yn derbyn cyllid yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, gan gynyddu'r risg bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn gyflym ac nad yw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn strategol. 
    Mae'r adroddiad yn gwneud pum argymhelliad i Lywodraeth Cymru i wella'r gwerth am arian y mae hi a chynghorau yn ei gyflawni. Maent yn cynnwys adolygu sut mae'n dyrannu cyllid i gynghorau, rhoi mwy o sicrwydd i gynghorau dros lefelau cyllid yn y dyfodol, a gwella sut mae'n rhoi grantiau i gynghorau. 

    ,
    Mae llawer o'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu themâu yr wyf wedi'u gweld dro ar ôl tro trwy gydol fy nghyfnod fel Archwilydd Cyffredinol. Mae'r adroddiad hwn yn canfod nad yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynghorau bob amser yn eu helpu i gyflawni gwerth am arian - yn enwedig dros y tymor hirach. Mae mynd i'r afael â'r themâu hyn yn hanfodol os yw Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol am lywio heriau ariannol a galw eithafol heddiw a darparu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy i bobl Cymru. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Ariannu cynghorau Sut mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynghorau

    Gweld mwy