Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb

09 Tachwedd 2020
  • Mae'r ail adroddiad blynyddol cyntaf yn nodi camau cadarnhaol tuag at amgylchedd tecach i staff a rhanddeiliaid

    Tra canolbwyntiodd adroddiad cynnydd cyntaf Swyddfa Archwilio Cymru ar bennu amcanion cydraddoldeb a gwneud trefniadau i gasglu gwybodaeth berthnasol, mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi dechrau integreiddio ein gwaith cydraddoldeb yn ein polisïau a'n harferion gwaith.

    Bu'r flwyddyn hon yn flwyddyn o ddatblygiadau mawr i Swyddfa Archwilio Cymru. Rydym wedi datblygu cyfres o gyfarwyddiadau er mwyn helpu staff i ymdrin â chydraddoldeb pan fyddant yn gwneud eu gwaith archwilio a gwaith cysylltiedig. Rwyf wedi penodi Cynghreiriaid a Hyrwyddwyr cydraddoldeb ac amrywiaeth sy'n helpu i ymgorffori cydraddoldeb yn niwylliant sefydliadol Swyddfa Archwilio Cymru. Rydym wedi cynnal nifer o sesiynau "Dysgu dros Ginio" lle gwahoddwyd staff i ddod i glywed sgyrsiau gan siaradwyr sy'n cynrychioli sefydliadau sy'n cefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig.