Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Rydym yn un o'r 10 cyflogwr gorau ar gyfer Working Families 2024

02 Hydref 2024
  • Rydym yn falch iawn o rannu gyda chi bod Archwilio Cymru yn un o’r 10 cyflogwr gorau ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio yn 2024 am yr ail flwyddyn yn olynol.

    Mae ein diwylliant, prosesau, buddion a pholisïau i gyd wedi cyfrannu at gyflawni ein safle yn y 10 uchaf.

    Sefydlwyd y meincnod cyflogwyr gorau ar gyfer teuluoedd sy'n gweithio gan Working Families yn 2010. Mae’n weithredol ledled y DU ac yn agored i holl aelodau cyflogwyr Working Families.

    Bellach yn ei bymthegfed flwyddyn, mae cyflogwyr mawr a bach o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yn cystadlu'n flynyddol i ennill lle anrhydeddus ar restr yr elusen o gyflogwyr gorau ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio.

    Mae'r meincnod yn ffordd i gyflogwyr weld a ydynt ar y blaen neu y tu ôl i'r gromlin wrth ddatblygu gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd, a chael adborth wedi'i deilwra a chefnogaeth gan Working Families.

    Deg Cyflogwr Gorau Working Families eleni – yn nhrefn yr wyddor – yw:

    • Archwilio Cymru
    • Citigroup
    • DAC Beachcroft
    • Grant Thornton
    • Gwasanaeth Erlyn y Goron
    • Hill Dickinson LLP
    • Independent Living Fund Scotland
    • Mishcon de Reya
    • Pinsent Masons
    • Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gogledd-ddwyrain Llundain (NELFT)

    Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cael rhai argymhellion gan Working Families er mwyn gallu parhau i ategu a gwella'r hyn a wnawn a pharhau i roi ein staff wrth wraidd yr hyn a wnawn.

    ,
    Rwy'n falch iawn bod Archwilio Cymru wedi ennill lle yn y 10 cyflogwr gorau ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae'r wobr yn cydnabod ein trefniadau gweithio hyblyg, a pholisïau ac arferion cyfeillgar i deuluoedd. Rwy'n gwybod bod y trefniadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i gydweithwyr wrth i ni weithio i siwglo ein hymrwymiadau gwaith a theulu. Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol