Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Wythnos Prentisiaethau yn ddathliad sy’n para wythnos a bob blwyddyn o ran prentisiaid a rhaglenni prentisiaethau, a gynhelir eleni rhwng 6 a 12 Chwefror.
Nod Wythnos Prentisiaethau yw tynnu sylw at bwysigrwydd prentisiaethau a datblygu'r sgiliau cywir i ddiogelu gyrfaoedd a busnesau at y dyfodol, a'r thema eleni yw 'Sgiliau am Oes'.
Yn Archwilio Cymru, rydyn ni o blaid darparu prentisiaethau a'r mewnwelediadau a'r safbwyntiau newydd gwerthfawr a ddaw yn eu sgil. Ein nod yw sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda, ac mae ein prentisiaid yn rhan hanfodol o'r broses hon:
Mae'r cynllun Prentisiaeth Archwilio Ariannol yn rhoi cipolwg mawr ar effaith ein gwaith ledled Cymru.
Rydym yn falch o'n holl brentisiaid y mae llawer ohonynt wedi ennill gwobrau a chymryd rhan mewn cystadlaethau ac rydym am achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu holl ymroddiad a'u gwaith caled.
Trwy gydol yr wythnos, byddwn yn rhannu straeon gan brentisiaid y gorffennol a'r presennol, yn ogystal â siarad â'n Cyfarwyddwr Gweithredol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru am y manteision a'r gwerth a ddaw yn sgil prentisiaid.
Mae gennym flogiau a phenodau podlediad am ein prentisiaethau felly cadwch lygad allan ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion.
Dilynwch ni ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol isod i ymuno â’n dathliad.
Twitter: @WalesAudit [yn agor mewn ffenestr newydd]
Facebook: @archwiliocymru [agorir mewn ffenest newydd]
LinkedIn: Archwilio Cymru [yn agor mewn ffenestr newydd]
Gallwch ganfod rhagor o fanylion am wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ar wefan y llywodraeth [agorir mewn ffenest newydd].