Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Prentisiaethau: Cyfle i ddysgu bob dydd

07 June 2021
  • Os ydych yn chwilio am newid gyrfa, neu'n yn dechrau ar eich gyrfa, mae prentisiaethau'n rhoi'r cyfle i chi ddysgu bob dydd mewn maes rydych chi'n llawn angerdd amdano.

    Mae'n eich galluogi i symud ymlaen yn gyflym drwy gymhwyso eich dysgu ffurfiol mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn, gyda chefnogaeth cydweithwyr profiadol.

    Dechreuom yn ein swyddi newydd fel prentisiaid Gwyddor Data ym mis Medi 2020. Mae ein hwythnos waith nodweddiadol yn cynnwys 1 diwrnod o hyfforddiant ffurfiol (dysgu am bynciau perthnasol), ac yna 4 diwrnod o ddysgu drwy weithio a gwaith prosiect. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni gymhwyso ein dysgu o'n hyfforddiant ffurfiol i brosiectau bywyd go iawn, tra hefyd yn ennill sgiliau a phrofiad newydd o weithio drwy brosiectau fel rhan o dîm.

    Bethan

    Ar ddechrau'r pandemig, fe'm rhoddwyd ar ffyrlo yn fy swydd flaenorol. Rhoddodd hyn amser i mi fyfyrio ar yr hyn yr oeddwn am ei hennill mewn yrfa. Sylweddolais fy mod am allu datblygu fy sgiliau gyda data ac ystadegau. Des i ar draws y brentisiaeth hon yn Archwilio Cymru – roedd yn ymddangos fel y ffordd berffaith o ddatblygu fy set sgiliau yn y maes hwn, tra chael profiad ymarferol o wneud rhywbeth rwy'n ei fwynhau. 'Am gyfle!' Meddyliais, a phenderfynais wneud cais heb ail feddwl.

    Yn sicr, ni wnaeth y brentisiaeth hon fy siomi! Ers gweithio yn Archwilio Cymru, dwi wedi dysgu llawer o sgiliau amhrisiadwy mewn cyfuniad o bod mewn prifysgol a thrwy dysgu wrth weithio gyda fy nghydweithwyr medrus. Yn Archwilio Cymru, dwi hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau meddal fel rheoli amser a chyfathrebu, yn ogystal â'r sgiliau dadansoddi data craidd sydd eu hangen i fod yn wyddonydd data. Mae'r gefnogaeth a gefais gan fy nhîm ac Archwilio Cymru wedi bod heb ei hail.

    Mae bod yn rhan o dîm sy'n awyddus i ddysgu yn golygu y gallaf ddod â'm gwybodaeth prifysgol i'r gweithle a chymhwyso fy ngolwg ddamcaniaethol i senarios bywyd go iawn a gweld gwir fudd yn dod ohono. Mae'n gyffrous gweld y ffyrdd y gellir cymhwyso fy nysgu prifysgol o fewn y byd gwaith, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu fy set sgiliau drwy gydol y rhaglen.

    David

    Yn debyg i Bethan, rhoddodd y cyfyngiadau symud gyfle gwerthfawr i gamu'n ôl ac ystyried fy nghamau nesaf. Ar ôl i fy niddordeb mewn data ddatblygu dros amser, roeddwn yn awyddus i ddysgu a gweithio o fewn y pwnc, yn enwedig ystadegau. O ystyried fy nghyfleoedd i ddysgu, roedd y brentisiaeth yn Archwilio Cymru yn gyfle i ddysgu yn y swydd yn ogystal â chymhwyso fy nysgu i waith pwysig ac effeithiol er budd y cyhoedd.

    Drwy gydol y brentisiaeth dwi’n derbyn cefnogaeth ac anogaeth aruthrol i'm helpu i ddatblygu. Mae cydweithwyr bob amser wedi bod yn hapus i helpu p'un a yw'n rhywbeth sy'n gysylltiedig ag astudio neu waith. Bu cefnogaeth hefyd i mi ymgysylltu â meysydd penodol o ddiddordeb. Mae hyn i gyd wedi gwneud y brentisiaeth yn brofiad gwych.

    Un uchafbwynt personol i mi yw'r cyfle i ddysgu fel rhan o dîm gwych, mae'n werth chweil ac, yn y bôn, yn fy helpu i ddeall a datrys problemau. Rwy'n edrych ymlaen at wneud hyn fwy a mwy wrth i'r brentisiaeth fynd yn ei flaen.

    Casgliad

    Mae'r ddau ohonom yn teimlo'n freintiedig iawn o fod wedi cael y cyfle gwych hwn i amsugno gwybodaeth bob dydd ac ni allwn aros i barhau â'n taith ddysgu a darganfod mewn maes rydym yn ei garu fel rhan o Archwilio Cymru.

    Mwy am yr awduron

    Picture of David

    Mae David yn hoffi meddwl am y rhan fwyaf o bynciau a'u trafod yn ogystal â mynd am dro yng nghefn gwlad. Ar ôl astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Sunderland bu'n gweithio fel fferyllydd cyn ymgymryd â swyddi amrywiol. Ers gweithio gyda data, mae wedi datblygu angerdd am ystadegau a defnyddio data er lles y cyhoedd. Mae David yn edrych ymlaen at ddysgu a datblygu arbenigedd fel rhan o'r tîm Dadansoddi Data, fel prentis yn Archwilio Cymru, i helpu i ddatblygu atebion data.

    Picture of Bethan

    Mae Bethan Cairns yn mwynhau cerdded ei chi Poppy, pobi, a chael BBQs ar y traeth. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd yn 2018 gyda gradd mewn Optometreg ac ar ôl treulio dwy flynedd yn profi llygaid, penderfynodd ddechrau gyrfa newydd mewn dadansoddi data. Fe ymunodd â'r tîm Dadansoddi Data yn Archwilio Cymru fel prentis. Mae hi'n edrych ymlaen at y cyffro a'r heriau sydd o’i blaen fel Gwyddonydd data!