Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar gynnydd y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol sydd newydd eu ffurfio

Cyrff corfforedig newydd yw Cydbwyllgorau Corfforedig a chanddynt rai pwerau a dyletswyddau tebyg i gynghorau.
Gallant fod yn berchen yn uniongyrchol ar asedau a chyflogi staff. Rhaid iddynt benodi Prif Weithredwr, Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro. Mae aelodaeth Cydbwyllgorau Corfforedig yn cynnwys arweinwyr y cynghorau o fewn y rhanbarth penodol ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol sy’n gorwedd yn y rhanbarth hwnnw.
Gan bod y Cydbwyllgorau Corfforedig yn gyrff corfforedig newydd, fe wnaethom fwrw golwg ar eu cynnydd o ran datblygu eu trefniadau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol a nod Llywodraeth Cymru i gryfhau cydweithio rhanbarthol.
Dros 2 flynedd ers eu sefydlu ym mis Ebrill 2021 a 12 mis ers rhoi eu swyddogaethau a dyletswyddau craidd iddynt ym mis Mehefin 2022, mae’n amlwg bod y Cydbwyllgorau Corfforedig yn dal i fod yng nghyfnod cynnar eu datblygiad.
Maent wedi sefydlu’r conglfeini ar gyfer eu datblygiad, ac mae cynnydd y Cydbwyllgorau Corfforedig yn amrywio mewn gwahanol feysydd ond, ar y cyfan, nid yw’r trefniadau llywodraethu i gyd yn weithredol ac mae cryn dipyn o waith i’w wneud i gyflawni eu cyfrifoldebau cynllunio strategol.
Roedd pryder cychwynnol ynghylch eu cynnydd araf ac amrywiol, a pharodrwydd Llywodraeth Cymru i hwyluso’r broses o’u rhoi ar waith, ond bu arwyddion mwy cadarnhaol o’r Cydbwyllgorau Corfforedig yn symud ymlaen yn ddiweddar.
Rydym yn disgwyl gweld y Cydbwyllgorau Corfforedig yn symud ymlaen ymhellach dros y 12-18 mis nesaf ac rydym wedi gwneud 5 argymhelliad.
Dylid darllen yr adroddiad ar y cyd â'r llythyrau unigol a roddwyd i'r pedwar Cydbwyllgor Corfforedig.
