Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae costau uwchraddio Rhan 2 yr A465 wedi cael eu ffrwyno i raddau helaeth ers 2020, ond mae’r stori ar y cyfan yn un o godiadau sylweddol mewn costau ac oedi sylweddol
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn dangos, er bod y ffordd sydd wedi’i huwchraddio wedi bod ar agor i draffig am beth amser, bod gwersi pwysig ar gyfer prosiectau gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Rhan 2 yw’r enw a roddir i’r prosiect i uwchraddio 8km o Ffordd Blaenau’r Cymoedd rhwng Gilwern a Brynmawr. Mae’r prosiect wedi goresgyn rhai heriau peirianegol sylweddol ac mae’n rhan o gynllun ehangach i uwchraddio 40km o’r A465.
Mae Rhan 2 sydd wedi cael ei huwchraddio wedi bod ‘ar agor’ ers mis Tachwedd 2021. Fodd bynnag, mae peth gweithgarwch adeiladu cyfyngedig yn dal i fynd rhagddo ac mae negodiadau i ddatrys diffygion a diffinio’r gweithgareddau adeiladu terfynol wedi bod yn anodd ac yn faith.
Mae Llywodraeth Cymru a Costain wedi bod yn anghytuno i ba raddau y mae’r ffordd wedi’i chwblhau. Mae Costain wedi dadlau, gan bod y ffordd yn weithredol, y dylid dyroddi tystysgrif cwblhau dan y contract adeiladu. Mae Llywodraeth Cymru wedi anghytuno â’r safbwynt hwn o ystyried bod peth gweithgarwch adeiladu’n dal i fynd rhagddo.
Bellach mae Llywodraeth Cymru’n rhagfynegi cost i bwrs y wlad o oddeutu £327 miliwn, sydd ychydig yn uwch na’r ffigwr yn ein hadroddiad interim ym mis Chwefror 2020 ac yn llawer uwch nag amcanestyniadau cynharach. Mae hyn yn cyfateb i 46% (£103.5 miliwn) yn fwy nag a ragwelwyd pan ddechreuodd y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, mae risgiau ariannol wedi lleihau erbyn hyn o ystyried bod y gwaith adeiladu yn ei gamau olaf ac mae’r gost ragamcanol yn dal i fod o fewn y gyllideb uwch o £336 miliwn a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2019.
Mae’r prosiect eisoes yn dwyn rhai manteision, er bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu adrodd yn llawnach arnynt. Mae data sylfaenol ar ddiogelwch ar y ffordd yn awgrymu gostyngiad mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys sefydlu academi hyfforddiant adeiladu ac mae wedi ennill gwobrau am ragoriaeth adeiladu, busnes yn y gymuned, a gwarchod cynefinoedd.
Er gwaethaf y manteision hyn, mae’r tarfu o ganlyniad i achlysuron pan fu’r ffordd ar gau wedi arwain at gwynion gan yrwyr, trigolion yr effeithiwyd arnynt gan draffig y gwyriadau a busnesau lleol.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn dysgu gwersi o’r prosiect trwy newid ei chontractau adeiladu ac adolygu ei dangosyddion perfformiad ar gyfer contractwyr.
Mae’r A465 yn rhan bwysig o rwydwaith trafnidiaeth Cymru, ond mae’r gwaith i wella’r rhan hon wedi bod yn anodd i’r partïon a fu ynghlwm wrtho ac i’r cymunedau lleol yr effeithiwyd arnynt. Er bod costau disgwyliedig i bwrs y wlad wedi cael eu ffrwyno i raddau helaeth ers fy adroddiad interim yn 2020, mae stori’r prosiect ar y cyfan yn un o godiadau sylweddol mewn costau ac oedi sylweddol. “Mae’n dal i fod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n rhoi gwersi o’r prosiect hwn ar waith wrth iddi gyflawni cynlluniau yn y dyfodol, ac un prawf o hynny fydd effaith newidiadau a wnaed yn barod i’w threfniadau contractio. Ac er bod y gweithgarwch adeiladu wedi dod i ben i raddau helaeth, mae gan Lywodraeth Cymru waith i’w wneud o hyd i adrodd yn fwy llawn ar fanteision y prosiect, gan adeiladu ar y dystiolaeth hyd yma.