Podlediad: Tlodi a Chydnerthedd Cymunedol

Podlediad: Tlodi a Chydnerthedd Cymunedol
30 Mai 2023
Eicon swigen lleferydd gyda'r geiriau Good Practice Exchange

Mae ein podlediad diweddaraf yn dilyn ein hadroddiadau a'n digwyddiadau diweddar ar dlodi, mentrau cymdeithasol, a chydnerthedd cymunedol.

Yma, mae Wren Radford, darlithydd yn y celfyddydau rhyddfrydol ym Mhrifysgol Manceinion, a Siobhan Parry o'r elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol Platfform, yn trafod eu gwaith o estyn allan at bobl a chymunedau sy'n profi tlodi.

Mae'r materion a drafodir yn y podlediad yn cynnwys pwysigrwydd gofyn "beth sydd wedi digwydd i chi?" yn hytrach na "beth sydd o'i le gyda chi?", a'r rôl y mae creadigrwydd a phrosiectau yn y gymuned yn eu chwarae wrth helpu pobl i oresgyn adfyd.

Gallwch wrando ar y podlediad trwy Soundcloud neu ddarllen y trawsgrifiad a ddarperir.

Darllenwch y Trawsgrifiad yn Gymraeg [yn agor mewn ffenestr newydd]

Darllenwch Trawsgrifiad yn Saesneg [yn agor mewn ffenestr newydd]

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gwrando ar hwn ac yn ei ganfod yn llawn gwybodaeth.