Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae hysbyseb ar gyfer Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru bellach yn fyw

29 Medi 2025
  • Mae'r Senedd yn chwilio am ymgeiswyr i'w penodi fel Archwilydd Cyffredinol nesaf Cymru.

    Wrth i'r Archwilydd Cyffredinol presennol, Adrian Crompton, gychwyn ar ei flwyddyn olaf yn Archwilio Cymru, mae'r ymdrech yn dechrau i ddod o hyd i ymgeisydd newydd i ymgymryd â'r swydd fawreddog sy’n dechrau yr haf nesaf.

    Mae swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn unigryw ac mae'n gyfrifol am archwilio tua £28 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol yng Nghymru ac am arwain Archwilio Cymru. 

    Mae'r Senedd yn chwilio am arweinydd eithriadol sydd â phrofiad o archwilio cyhoeddus, atebolrwydd ariannol, neu uwch arweinyddiaeth sefydliadol, a chyda'r gallu i gynrychioli Archwilio Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

    Canfuwch fwy

    Mae gwybodaeth am y swydd a sut i wneud cais ar gael ar wefan y Senedd [yn agor mewn ffenestr newydd]

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Gwener 31 Hydref, gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal ym mis Ionawr.