Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Canfu ein hadroddiad fod oedi parhaus wrth fabwysiadu dogfennau strategol allweddol wedi creu risgiau sylweddol i'r Cyngor.
Oherwydd hyn, mae'r berthynas rhwng rhai aelodau a swyddogion wedi'u torri o fewn y Cyngor.
Ein prif nod oedd darganfod a oedd gan y Cyngor drefniadau llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau gan ganolbwyntio ar y Gwasanaeth Cynllunio.
Gwnaethom gynnal adolygiad o drefniadau'r Gwasanaeth Cynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac i ba raddau y mae'n cefnogi cyflawni amcanion cyffredinol y Cyngor. Edrychodd ein gwaith ar sut mae'r Cyngor yn adolygu ac yn monitro ei drefniadau llywodraethu, gan gynnwys sut mae'n sicrhau gwerthoedd ac ymddygiadau priodol, gyda ffocws penodol ar y Gwasanaethau Cynllunio.
Ar adeg ein gwaith, nid oedd yr Aelodau wedi mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol. Creodd hyn risgiau sylweddol i'r Cyngor. Ac er bod gan y Gwasanaeth Cynllunio drefniadau llywodraethu priodol ar waith, ac mae'n darparu hyfforddiant cynhwysfawr i aelodau, torrwyd perthynas Aelodau â swyddogion, ac mae cyngor swyddogion proffesiynol yn aml yn cael ei danseilio.
Ar sail ein canfyddiadau, rwyf wedi nodi argymhellion sydd â'r bwriad o wella'r berthynas rhwng swyddogion ac aelodau a'u dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau priodol". Gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn helpu'r gwasanaeth cynllunio i gyflawni ei rôl alluogi hanfodol ar draws y Cyngor.
Ers ein gwaith archwilio, mabwysiadodd y Cyngor ei Gynllun Cyngor 2023-28 yn y Cyngor ar 13 Rhagfyr 2023 a'i Gynllun Datblygu Lleol yn y Cyngor Eithriadol ar 20 Rhagfyr 2023.