Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar helpu cynghorau i wneud y gorau o Fentrau Cymdeithasol ac i harneisio eu potensial
Mae Mentrau Cymdeithasol yn eistedd rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Gallant fod o fudd i gymunedau difreintiedig; creu cyfoeth lle mae arian yn brin; a helpu i drechu tlodi a diwallu'r angen.
Mae Mentrau Cymdeithasol yn cymryd llawer o ffurfiau gan gynnwys partneriaethau er elw neu ddielw, cwmnïau cydfuddiannol, sefydliadau cydfuddiannol, busnesau cymdeithasol, cwmni diddordeb cymunedol ac elusennau. Gall Mentrau Cymdeithasol felly weithio ym mhob sector o economi Cymru ac ym mhob rhan o'r wlad ac maent yn fwyfwy amlwg yn deddfwriaeth Senedd Cymru.
Mae ein hadroddiad yn ystyried dull strategol awdurdodau lleol o weithio gyda Mentrau Cymdeithasol. Rydym yn edrych ar y mecanweithiau sydd gan awdurdodau lleol i sicrhau gwerth am arian Mentrau Cymdeithasol a sut maen nhw'n cael eu defnyddio ledled Cymru.
Oherwydd bod Mentrau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar gadw cyfoeth o fewn cymunedau, gwelon ni eu bod nhw'n gallu cynorthwyo pobl sydd mewn tlodi. Er bod enghreifftiau da o'r ffordd y mae rhai awdurdodau lleol yn cydweithio'n effeithiol â Mentrau Cymdeithasol, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau yn hyrwyddo cyfleoedd i ehangu rôl Mentrau Cymdeithasol i wneud y gorau o'u heffaith. Mae cymysgedd o arweinyddiaeth wael ac ymgysylltu a gwybodaeth annigonol o'r sector Menter Gymdeithasol gan awdurdodau lleol yn golygu nad yw eu potensial yn cael ei wireddu. Er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu grantiau i fusnesau a'r trydydd sector, nid ydynt yn eu defnyddio i gefnogi Mentrau Cymdeithasol yn benodol. Yn benodol, mae angen i awdurdodau lleol wneud mwy i gyflawni eu cyfrifoldebau gofal cymdeithasol statudol i fentrau cymdeithasol a hyrwyddo a datblygu'r sector yn effeithiol i ddarparu mwy o wasanaethau mewn cymunedau.
Ond fe ganfuom fod rhai awdurdodau lleol yn hyrwyddo cyfleoedd. Canfuom fod gan wefannau'r awdurdodau lleol gorau ddiffiniad clir o beth yw Menter Gymdeithasol. Roedd ganddynt gysylltiadau ag amrywiaeth eang o sefydliadau i gael mynediad at wybodaeth bellach a manylach, yn enwedig ar faterion cyfreithiol, megis Busnes Cymdeithasol Cymru, CWMPAS, Social Enterprise UK neu CBCDC. Roeddynt hefyd yn rhoi manylion cyswllt a gwybodaeth am raglenni cymorth lleol a grantiau sy'n cael eu gweinyddu gan yr awdurdod lleol.
Mae angen i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt y trefniadau a'r systemau cywir yn eu lle i gael y gorau o'u gwaith gyda Mentrau Cymdeithasol a'u hariannu. O ystyried hyn rydym wedi canolbwyntio ein hargymhellion ar gefnogi awdurdodau lleol i bwyso a mesur y gwaith cyfredol a siartio perthynas newydd gyda'r sector Menter Gymdeithasol. Rydym wedi creu offeryn gwerthuso i gefnogi swyddogion ac aelodau etholedig i nodi a chytuno ar y ffordd orau o weithio gyda Mentrau Cymdeithasol wrth symud ymlaen.
Mae Mentrau Cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig yn yr anghenion sy'n diwallu a helpu pobl mewn cymunedau ledled Cymru. Gallai awdurdodau lleol wneud mwy i uchafu effaith Mentrau Cymdeithasol, cael gwell gwerth am arian o'u gwaith, a gwella gwasanaethau i bobl a chymunedau.