Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gwneud cais i ddod yn Brentis Ariannol yn Archwilio Cymru

07 Mawrth 2025
  • Mae ceisiadau ar agor ar gyfer ein rhaglen Prentisiaeth AAT.

    Mwy am y rhaglen

    Mae ein prentisiaeth Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) yn gyfle i ennill cyflog wrth i chi ddysgu mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol. Mae dau gyfle:

    1. Tymor penodol 2 flynedd ar gyfer y rhai sydd ag AAT lefel 2
    2. Tymor penodol 3 blynedd ar gyfer y rhai sydd â chymwysterau Safon Uwch yn unig

    Sylwer, NID yw unigolion sydd eisoes â gradd yn gymwys i wneud cais.    

    Beth fyddwch chi'n ei wneud

    Byddwch yn derbyn hyfforddiant a mentoriaeth gynhwysfawr tra bod yn rhan hanfodol o'r tîm sy'n cymryd rhan yn archwiliad dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru. Mae rhai o'n cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol, tân ac achub a mwy. Bydd y gwaith a wnewch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol yng Nghymru.

    Pam ddewis rhaglen Archwilio Cymru?

    Rydym yn cynnig pecyn cyflog a buddion rhagorol, gan gynnwys:

    • 33 diwrnod o wyliau blynyddol
    • 35 awr o waith yr wythnos.
    • Absenoldeb i astudio â thâl
    • Gostyngiadau ar y stryd fawr

    Trefniadau gweithio hyblyg a gweithio hybrid
    Rydym hefyd yn cynnig llwybr posibl i'n cynllun i raddedigion.

    Canfuwch fwy am y rhaglen, a rhai straeon gan ein prentisiaid presennol.