• Prentis Cyllid AAT
    £24,656 - £29,440
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Cymru

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Amdanom Ni: Archwilio Cymru yw corff archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n ymroddedig i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Rydym yn darparu sicrwydd annibynnol ac yn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.

Y Cyfle: Rydym yn cynnig cyfleoedd i ennill a dysgu drwy Raglen Uwch Brentisiaeth Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) Archwilio Cymru.

Mae'r cyfleoedd naill ai'n rhaglen cyfnod penodol o 2 flynedd ar gyfer y rhai sydd â lefel AAT lefel 2 NEU raglen cyfnod penodol 3 blynedd ar gyfer y rhai sydd dim ond â chymwysterau Safon A.

Sylwer, NID yw unigolion sydd eisoes â gradd yn gymwys i wneud cais.

Byddwn yn eich ategu i gwblhau hyfforddiant proffesiynol i gwblhau AAT o lefel 2 (neu 3 os ydych eisoes wedi cymhwyso ar lefel 2) hyd at lefel 4.

Byddwch yn cymryd rhan yn yr archwiliad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, yn sicrhau bod y gwaith a wnewch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy.

Rydym yn awyddus i'ch ategu a'ch hyfforddi drwy ein rhaglen brentisiaethau sy'n darparu llwybr posibl i'n cynllun i raddedigion.

Cyfrifoldebau allweddol:

  • Mynychu a chwblhau'r cymhwyster AAT
  • Cynnal gwaith archwilio ar draws ystod o feysydd cyfrifo neu wariant grant, gan sicrhau dull gweithio wedi'i gynllunigydag Archwilydd Ariannol Arweiniol neu oruchwyliwr priodol arall i’ch cynorthwyo
  • Cael cymorth wrth nodi canfyddiadau o'r gwaith maes a datblygu argymhellion ystyrlon sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • Cyflwyno dogfennaeth wedi'i threfnu ac wedi'i hysgrifennu'n dda i'w hadolygu

  Yr Hyn yr Ydym yn ei Gynnig:

  • Hyfforddiant a mentoriaeth cynhwysfawr
  • Amgylchedd gwaith cynorthwyol a chynhwysol
  • Cyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa posibl i'n Rhaglen Hyfforddiant i Raddedigion
  • Pecyn cyflog a buddion rhagorol

 Pecyn cyflog a budd-daliadau

  • £24,656 – £29,440
  • 33 diwrnod o wyliau blynyddol
  • 35 awr o waith yr wythnos.
  • Absenoldeb i astudio â thâl
  • Gostyngiadau ar y stryd fawr
  • Trefniadau gweithio hyblyg a gweithio hybrid.

Gofynion Hanfodol:

  • Diddordeb cryf mewn archwilio a gwaith sector cyhoeddus
  • Sgiliau dadansoddol a datrys problemau cadarn
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog
  • Sylw da i fanylion ac ymrwymiad i gywirdeb.
  • Isafswm cymwysterau addysgol o 3 Safon A Gradd C neu'n uwch, ynghyd â B mewn TGAU Mathemateg
  • Dangos dysgu a chymhwyso dysgu yn eich gwaith o ddydd i ddydd
  • Sgiliau TG da, gyda'r gallu i ddysgu sgiliau TG newydd
  • Sgiliau gweithio tîm rhagorol, dangos brwdfrydedd a chymryd rhan weithredol yn y tîm
  • Sgiliau holi a gwrando cadarn.

Sut i Wneud Cais:

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein ar ein gwefan, gan sicrhau eich bod yn nodi'r HOLL ofynion addysgol, gorffennol a chyfredol. Ceir rhagor o wybodaeth am y swydd a chymhwysedd ar ein gwefan. Rydym bwriadu cynnal asesiadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 7 Ebrill 2025.

Os ydych yn awyddus i ddechrau eich gyrfa ym maes archwilio a chael effaith gadarnhaol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!Prentis_Disgrifiad_Swydd.pdf

Dyddiad Cau

  • 23/03/2025
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy