Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gweithredu cadarnhaol ar dwyll a gwallau mewn fferylliaeth gymunedol ond gallai mwy o ddadansoddi fod yn fuddiol

05 Rhagfyr 2025
  • Ym mis Mai 2024, fe wnaethom adrodd ar y potensial i wneud mwy i ganfod twyll a gwallau mewn fferylliaeth gymunedol drwy wella sut mae data'n cael ei ddadansoddi'n ganolog gan y GIG yng Nghymru.

    Gan weithio gyda Gwasanaeth Gwrth-dwyll GIG Cymru, fe wnaethom ddadansoddi data dosbarthu fferyllfeydd cymunedol ar raddfa, i roi mewnwelediadau ar feysydd cost uchel a thwyll posibl. Fe wnaethom ganolbwyntio ar fferylliaeth gymunedol oherwydd ei bod yn cynnwys gwariant sylweddol, mae'n faes o risgiau twyll hysbys, ac nid oedd yn ymddangos bod craffu yn digwydd ar gyfer twyll cymaint â rhai gwasanaethau eraill y GIG.

    Er na wnaethom ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth o dwyll penodol, fe wnaethom dynnu sylw at gyfleoedd i arbed £700,000 (yn amodol ar wahanol gafeatau). Ac fe wnaethom ddod o hyd i wallau ar ffurf gordaliadau gwerth £22,000 sydd wedi eu hadennill ers hynny gan y GIG. 

    Mae'r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at gyfle clir: er bod prosesau presennol yn cynnig rhai mesurau diogelu, gallai gwaith â chymorth mwy canolog i ganfod ac atal twyll mewn gweithgareddau dosbarthu, yn ogystal â sicrhau gwerth am arian, fod yn fuddiol.

    Mae'r gwelliannau yn cynnwys dangosfwrdd newydd 

    Wrth ymateb i'n hadroddiad [yn agor mewn ffenestr newydd], gwnaeth Prif Swyddog Fferyllol Cymru gydnabod ein canfyddiadau ac ymrwymodd i gyfres o gamau gweithredu. Yn ganolog i'r rhain roedd datblygu dangosfwrdd rhyngweithiol i ddarparu dadansoddiad i gyrff y GIG o eitemau a ddosbarthwyd ledled Cymru, gan gynnwys eitemau drud (eitemau â chost cynhwysion net o £100 neu fwy) ac eitemau arbennig drud (eitemau sydd angen eu paratoi'n arbennig gan wneuthurwr cofrestredig). 

    Datblygodd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan [yn agor mewn ffenestr newydd] y dangosfwrdd, sydd bellach ar gael i bob bwrdd iechyd. Mae hyn yn gam cadarnhaol. Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr weld data am ragnodi yn ogystal â dosbarthu mewn fferyllfa gymunedol, gan helpu i nodi allanolion a phatrymau ym maes dosbarthu cost uchel. 

    Er gwaethaf ei fod yn un o'r nodau gwreiddiol, nid yw'r dangosfwrdd yn caniatáu i ddefnyddwyr weld manylion presgripsiynau unigol. Gall rhai staff y GIG weld presgripsiynau unigol ond dim ond drwy system ar wahân a weithredir gan Bartneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru. Heb y gallu i weld y manylion yn uniongyrchol o fewn y dangosfwrdd, nid yw cyfleoedd i gael mewnwelediad ychwanegol ac arbed amser yn cael eu gwireddu'n llawn. 

    Mae gan bob bwrdd iechyd reolaethau ar waith ond a oes lle i rannu'n well? 

    Ymateb arall i'n gwaith oedd i'r Prif Swyddog Fferyllol ysgrifennu at bob bwrdd iechyd, yn gofyn iddynt ddisgrifio'r trefniadau sydd ganddynt i leihau gwariant y gellir ei osgoi a'r risg o dwyll a gwallau wrth ragnodi a dosbarthu eitemau drud.

    Ymatebodd yr holl fyrddau iechyd a dywedodd y mwyafrif eu bod yn defnyddio'r dangosfwrdd fel rhan o ymdrechion amrywiol i ymchwilio i allanolion a rheoli risgiau ynghylch twyll, gwallau a chost uchel. Dywedodd rhai byrddau iechyd fod cydgrynhoi'r dangosfwrdd o wybodaeth ar lefel fferyllfeydd cymunedol unigol yn rhoi sicrwydd ychwanegol iddynt. Fodd bynnag, mae data ar nifer y defnyddwyr o'r dangosfwrdd yn awgrymu cwmpas i gynyddu'r defnydd o fewn byrddau iechyd. 

    Mae camau gweithredu eraill gan fyrddau iechyd yn cynnwys gwyliadwriaeth arferol o ddata am bresgripsiynau cost uchel ac arbennig, ar wahân i'r data a gyflwynir yn y dangosfwrdd, yn ogystal â chynnal taenlenni sy'n tynnu sylw at allanol posibl, ac ymweliadau ymarfer meddygon teulu wedi'u targedu.

    Nid oedd yn glir o'r ymatebion a yw byrddau iechyd yn gwneud digon i rannu gwybodaeth ac arfer da. 

    Mae technoleg yn agor cyfleoedd newydd 

    Rydym yn dal i gredu bod dosbarthu fferyllfeydd cymunedol yn faes lle gallai craffu pellach fod yn fuddiol. Roedd ymatebion rhai byrddau iechyd i'r Prif Swyddog Fferyllol yn tynnu sylw at syniadau penodol ar gyfer rheolaethau a gwiriadau ychwanegol.

    Ac mae datblygiadau mewn technoleg—megis y posibilrwydd o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i nodi anghysondebau mewn rhagnodi a dosbarthu—ochr yn ochr â gwell integreiddio systemau electronig (gan gynnwys cyflwyno presgripsiynu electronig [yn agor mewn ffenestr newydd]) yn cynnig llwybrau addawol ar gyfer cynnydd. 

    Gallai'r arloesiadau hyn alluogi dadansoddiad mwy soffistigedig, mwy o dryloywder, ac arbedion amser wrth nodi risgiau twyll ac arbedion posibl. 

    Mae adroddiad diweddar [yn agor mewn ffenestr newydd] gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn darparu mwy i’w ystyried ac astudiaethau achos defnyddiol ar sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ddefnyddio technoleg i nodi twyll.

    Casgliad

    Mae rhai o'r camau a gymerwyd ers ein hadroddiad yn 2024 yn galonogol, ond gobeithio eu bod yn cynrychioli dechrau yn hytrach na diwedd y daith. Yn ein barn ni, gall Cymru wneud llawer mwy i fynd i'r afael â risgiau twyll a gwallau wrth dosbarthu ym maes fferylliaeth gymunedol drwy ymrwymo i ddadansoddiad canolog pellach (ac adnoddau i alluogi'r dadansoddiad hwn), cydweithredu cryfach ar draws GIG Cymru, buddsoddiad parhaus mewn technoleg, a chysylltu ffynonellau data yn well.

    Camau nesaf ar gyfer Archwilio Cymru

    Mae ein camau nesaf ar ddadansoddeg twyll yn cynnwys creu offeryn data i helpu ein harchwilwyr i gael gwell mewnwelediadau o'r Fenter Twyll Genedlaethol [yn agor mewn ffenestr newydd] (NFI), er mwyn galluogi trafodaethau mwy gwybodus gyda chyrff sy'n cymryd rhan am yr NFI a gobeithio gwell canlyniadau ariannol.

    Rydym hefyd wedi cynnal ymarfer peilot ar gofrestriadau meddygon teulu y GIG, gan baru manylion cofnodion anfeddygol cleifion sydd wedi'u cofrestru'n barhaol ar restrau practis meddygon teulu â setiau data eraill gyda'r nod o nodi anghysondebau. Rydym yn bwriadu adrodd ar wahân ar yr ymarfer hwn yn y dyfodol agos. 

    Mae gwaith dadansoddeg ar dwyll yn parhau i fod yn uchel ar ein rhestr flaenoriaethau. I'n helpu i ddewis ein prosiectau yn y dyfodol, byddwn yn estyn allan at wahanol sefydliadau sydd ag arbenigedd a phrofiad ym maes canfod ac atal twyll. Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni llif o brosiectau dadansoddeg twyll dros y tymor hir.