Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru weithio’n dda gyda phartneriaid mewn amgylchiadau anodd i letya a chefnogi Wcreiniaid a oedd yn ffoi rhag y rhyfel
Fe wnaeth mwy o newydd-ddyfodiaid na’r disgwyl trwy gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru a gormod o optimistiaeth ynghylch pa mor hir y byddai’r rhai a oedd yn cyrraedd yn aros yn eu llety cychwynnol arwain at gostau uwch
Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ganiatáu i’r rhai a oedd yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin ddod i mewn i’r DU. Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, fe benderfynodd Gweinidogion Cymru y byddai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am Wcreiniaid fel un o uwch-noddwyr ‘Cartrefi i Wcráin’ a oedd yn golygu nad oedd angen i bobl gael eu paru â lletywr cyn cael fisa.
Ym Trwy gadw’r cynllun uwch-noddwr ar agor tan fis Mehefin 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gefnogi’r 1,000 o newydd-ddyfodiaid y dywedodd y byddai’n eu helpu yn ystod cyfnod cychwynnol yr ymateb brys. Fe wnaeth hyn er gwaethaf y posibilrwydd y byddai nifer sylweddol uwch o Wcreiniaid yn cyrraedd mewn gwirionedd, fel a ddigwyddodd.
Erbyn mis Hydref 2023, roedd y cynllun uwch-noddwr yn gyfrifol am 3,232 – 45 y cant – o’r 7,118 o newydd-ddyfodiaid Wcreinaidd â lletywr yng Nghymru neu drwy’r cynllun.
Mae’r adroddiad yn canfod, ar y cyfan, bod Llywodraeth Cymru a phartneriaid wedi cydweithio’n dda i helpu Wcreiniaid i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd, er y bu rhai problemau mewn perthynas â mynediad at ofal iechyd. Bu gan Ganolfan Gyswllt rôl hanfodol o ran cydgysylltu newydd-ddyfodiaid a rhoi cyngor.
Ers cyfnod cychwynnol yr ymateb, mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid wedi cryfhau eu ffocws ar gynorthwyo Wcreiniaid i symud allan o Ganolfannau Croeso a llety cychwynnol arall. Pan oedd yr ymateb ar ei anterth ym mis Hydref 2022, roedd 32 o safleoedd ar agor yn lletya 1,840 o bobl. Erbyn mis Ionawr 2024, roedd hynny wedi gostwng i 4 safle, yn lletya 128 o bobl. Dim ond dau safle y bwriedir iddynt aros ar agor yn 2024-25.
Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol y byddai’n costio oddeutu £18 miliwn i letya 1,000 o Wcreiniaid mewn Canolfannau Croeso. Fe wnaeth mwy o newydd-ddyfodiaid ac arosiadau hwy na’r disgwyl mewn Canolfannau Croeso a llety cychwynnol arall achosi i gostau gynyddu ar y cyfan ac fe ychwanegodd bwysau ar wasanaethau cyhoeddus ehangach. Roedd costau llety’n amrywio’n sylweddol ond gwelodd archwilwyr dystiolaeth bod Llywodraeth Cymru’n ceisio sicrhau gwerth am arian.
Gwariodd Llywodraeth Cymru £61 miliwn ar yr ymateb i Wcráin yn ystod 2022-23, gan gynnwys costau llety a chostau eraill. Gan ystyried cyllid gan Lywodraeth y DU, mae Archwilio Cymru’n amcangyfrif bod y gost net i Lywodraeth Cymru’n £29.2 miliwn o leiaf.
Mae costau llety is yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n disgwyl gwario £35.7 miliwn neu lai yn 2023-24, gyda’r mwyafrif yn cael ei ariannu o’i chyllideb ei hun. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyllidebu £4.5 miliwn ar gyfer 2024-25, heb gynnwys cymorth digartrefedd i lywodraeth leol. Mae’r sefyllfa tymor hwy ar gyfer Wcreiniaid yn dibynnu ar ddatblygiadau a phenderfyniadau ar lefel y DU ac yn rhyngwladol.
Читайте наш звіт українською мовою
Читать наш итоговый отчет на русском языке
Read our summary report in English
Darllenwch ein hadroddiad cryno yn Gymraeg
Rwy'n cydnabod yr ymdrechion sylweddol y bu’n rhaid eu gwneud wrth i wasanaethau cyhoeddus Cymru a'u partneriaid ymateb i letya a chefnogi pobl a fu’n cyrraedd o Wcráin. Roedd hyn i gyd ar adeg pan fo gwasanaethau wedi bod yn ymgodymu â gwaddol y pandemig a phwysau ehangach ar adnoddau. Bydd angen i'r gwaith barhau yng nghyd-destun prosesau penderfynu ehangach Llywodraeth y DU a chwrs digwyddiadau yn Wcráin. Mae'n dda gallu myfyrio'n gadarnhaol ynghylch y modd y cafodd yr ymateb o dan gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru ei reoli ar y cyfan. Serch hynny, mae gwersi pwysig ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ynghylch asesiad cynnar Llywodraeth Cymru o nifer y newydd-ddyfodiaid, y ffordd y byddent yn cael eu lletya, a'r costau a fyddai’n codi o'r ymateb.