Dulliau o gyflawni sero net ledled y DU

Dulliau o gyflawni sero net ledled y DU
14 Medi 2023
Llun o felinau gwynt mewn cae

Adroddiad gan bedwar Archwiliwr Cyffredinol y Deyrnas Unedig.

Bydd perthnasoedd gwaith effeithiol rhwng y DU a llywodraethau datganoledig yn allweddol i sicrhau sero net erbyn 2050 - o ystyried y gwahanol dargedau, cyllidebau carbon a pholisïau sero net ar draws y pedair gwlad.

Amlygir hyn gan bedair swyddfa archwilio gyhoeddus y DU yn eu hadroddiad Dulliau o gyflawni sero net ledled y DU. Mae'r cyhoeddiad yn nodi deddfwriaeth, polisi, strategaeth, llywodraethu a threfniadau monitro llywodraethau'r DU a datganoledig sy'n berthnasol ar gyfer cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net.

Trafnidiaeth yw'r sector allyrru nwy tŷ gwydr mwyaf yn Lloegr a'r Alban ar hyn o bryd; tra yng Nghymru, cyflenwad ynni sy'n cyfrannu fwyaf at allyriadau, ac yng Ngogledd Iwerddon, amaethyddiaeth yw'r sector allyrru mwyaf.

Mae'r gwahanol broffiliau allyriadau yn y pedair gwlad wedi eu harwain at fabwysiadu dull pwrpasol o ddatgarboneiddio, gan gynnwys trwy gyfuniadau gwahanol o dargedau a pholisïau allyriadau, gyda threfniadau amrywiol ar gyfer sectorau penodol.

Er bod pob un o'r pedair gwlad yn cymryd dulliau gwahanol o ddatgarboneiddio, mae'r adroddiad hefyd yn ei gwneud yn glir bod cyflawni sero net mewn unrhyw un wlad yn dibynnu ar weithredu ar lefel y DU, ac i'r gwrthwyneb. Felly, mae'n bwysig sicrhau bod dewisiadau a wneir gan bob cenedl – o'u hystyried ar y cyd - yn darparu llwybr effeithiol i gyrraedd targedau sero net y DU, yn ogystal â'r rhai a osodir ar lefel ddatganoledig. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau gwerth am arian ar wariant sero net.

Er enghraifft, bydd polisi ledled y DU yn hanfodol wrth ddiffinio llwybrau tuag at ddatgarboneiddio gwresogi mewn adeiladau, ond bydd angen ategu hyn drwy weithredu ar lefel ddatganoledig ar faterion gan gynnwys cynllunio a gwella effeithlonrwydd ynni. Mae cyd-ddibyniaethau yn codi ymhellach drwy benderfyniadau ariannol llywodraeth y DU, o ystyried eu bod yn effeithio ar argaeledd arian yn y gweinyddiaethau datganoledig.

Dulliau o sicrhau sero net ledled y DU