Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Er gwaethaf rhai newidiadau sylweddol i'n gwaith arfaethedig oherwydd COVID-19, gwnaethom gyflwyno rhaglen archwilio lawn yn llwyddiannus yn 2020-21.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21 bellach wedi'u cyhoeddi.
Ochr yn ochr â'n datganiadau ariannol a’n datganiad atebolrwydd, mae'r Adroddiad yn rhoi crynodeb o'r newidiadau a wnaed i'r rhaglenni gwaith gwreiddiol a nodir yn ein Cynllun Blynyddol mewn ymateb i bandemig COVID-19, a'r cynnydd a wnaethom o ran cyflawni'r cynlluniau addasedig hynny.
Mae detholiad o astudiaethau achos wedi'u cynnwys i roi mwy o fewnwelediad i rai o'r prosiectau yr ydym wedi bod yn ymwneud â nhw a'r cyfraniad y mae’r gwaith wedi'i wneud.
Rydym hefyd yn darparu naratif ar sut y gwnaethom ddefnyddio ein hadnoddau yn 2020-21, ac ar y cynnydd a wnaethom tuag at gyflawni'r targedau dangosyddion perfformiad allweddol a nodir yn ein Cynllun.
Rydym yn falch o adrodd ein bod wedi cyflwyno ein rhaglen lawn o waith archwilio cyfrifon yn 2020-21. Mae ein llwyddiant wrth barhau i ddarparu archwiliadau amserol ac o ansawdd da yn adlewyrchu ymdrech fawr ar y cyd gan ein staff a'n swyddogion cyrff cyhoeddus i groesawu ffyrdd newydd o weithio a pharhau i fod yn hyblyg ac yn ystyriol o'r materion niferus sy'n codi. Mae ein rhaglen astudiaethau cenedlaethol bob amser wedi cadw rhywfaint o hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau sy'n newid. Nid yw'n syndod ein bod wedi arfer yr hyblygrwydd hwnnw dros y flwyddyn ddiwethaf yn fwy nag erioed o'r blaen. Gwnaethom gyhoeddi sawl adroddiad yn canolbwyntio'n benodol ar ymateb COVID-19 a gwnaethom ail-lunio llawer o'n gwaith arfaethedig er mwyn ei gynnwys yn y cyd-destun hwn. Ar lefel leol, gwnaethom ail-lunio ein cynlluniau archwilio llywodraethu a gwerth am arian yn sylweddol mewn cyrff GIG a llywodraeth leol unigol er mwyn canolbwyntio ar faterion a oedd fwyaf perthnasol i'r sefyllfa sy'n esblygu. Rwyf yn ddiolchgar iawn i holl staff Archwilio Cymru am eu proffesiynoldeb, eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus drwy'r cyfnod heriol hwn.
Rwy'n talu teyrnged i'n staff am eu holl waith caled a'u hymrwymiad drwy gydol y flwyddyn. Yn yr Adroddiad hwn rydym yn dathlu ein cyflawniadau, sy’n niferus, ond yn nodi rhai meysydd pwysig lle mae angen i ni adlewyrchu a gwneud rhagor o welliannau. Wrth edrych i'r dyfodol byddwn yn parhau i flaenoriaethu cefnogaeth barhaus i iechyd a lles staff Archwilio Cymru wrth i ni symud o ddull 'ymateb' i ddull 'adfer' o ran pandemig COVID-19. Wrth lunio ein ffordd newydd o weithio ar gyfer y dyfodol, byddwn yn adeiladu ar yr addasiadau a amlinellir yn yr Adroddiad hwn, er mwyn nodi a chadw rhai o'r newidiadau cadarnhaol a welsom yn ystod y pandemig.