Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad ar daliad i gyn-Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

30 Medi 2022
  • Wedi iddo roi barn amodol ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn ymwneud â thaliad i gyn-Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru pan derfynwyd ei chyflogaeth ym mis Hydref 2021.

    Roedd y modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniadau ynglŷn â threfniadau gwaith y cyn-Ysgrifennydd Parhaol a phenderfynu gwneud taliad iddi pan derfynwyd ei chyflogaeth yn brin o dryloywder ac nid oedd yn cydymffurfio ag egwyddorion llywodraethu da.

    Mae'r Archwilydd Cyffredinol o'r farn y dylai'r ffeithiau ynglŷn â'r mater hwn gael eu tynnu at sylw'r cyhoedd a'r Senedd.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Taliad i Gyn-Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru pan Derfynwyd ei Chyflogaeth

    View more