Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gyd wedi rhoi pwyslais pellach ar yr angen i gyrff cyhoeddus fesur canlyniadau yn hytrach nag allbynnau.
Mae Nodau Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [agorir mewn ffenest newydd] yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus ddangos tystiolaeth o sut mae eu gwaith yn gwella bywydau'r cyhoedd yng Nghymru. Golyga hyn symud i ffwrdd o ddangos allbynnau ein gwaith, sy'n haws eu mesur ond sy'n dweud fawr ddim wrthym, i ddangos canlyniadau ein gwaith, sy'n anos eu mesur ond sy'n dweud wrthym am y gwahaniaeth gwirioneddol a wnawn i fywydau pobl.
Felly sut y gall gwasanaethau cyhoeddus wneud y newid anodd hwn i ddangos tystiolaeth o'u heffaith? Bydd y weminar hon yn edrych ar y wybodaeth gefndirol, yr ymwybyddiaeth a'r ymddygiad sydd eu hangen i symud tuag at ddull seiliedig ar ganlyniadau a bydd yn rhannu sut mae cyrff eraill yn datblygu'r gwaith o fesur eu canlyniadau.
Mae hwn yn fan diogel i gyfranogwyr rannu eu syniadau cychwynnol o ran sut maent yn bwriadu sicrhau'r newid diwylliannol o fewn eu sefydliadau a'u cyrff partneriaeth a chlywed gan siaradwyr a fydd yn rhannu gwersi a ddysgwyd o'u profiadau eu hunain.
Ar gyfer pwy mae'r weminar
Mae'r weminar hon ar gyfer staff sy'n cynllunio, darparu neu werthuso gwasanaethau cyhoeddus.
Pryd
12pm – 1:30pm
Dydd Mercher 16 Mai 2018
Cofrestru
I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein isod.
Cylchredir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth drefnu lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch.
Os ydych yn bwriadu gwrando ar y weminar gyda chydweithwyr, rhowch eu henwau i ni fel y gallwn gofnodi presenoldeb yn gywir.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru