Shared Learning Webinar
Rheoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned

Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar ‘Reoli Ariannol a Llywodraethu mewn Cynghorau Cymuned’. 

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Canfu'r adroddiad fod gan gynghorau cymuned yng Nghymru le i wella o hyd o ran datblygu a gwella rheoli ariannol a llywodraethu yn arbennig mewn perthynas ag ansawdd cyflwyno adroddiadau ariannol, rheoli ariannol a threfniadau archwilio mewnol.

Mae cynghorau cymuned Cymru yn rheoli symiau sylweddol o arian ac yn dal cronfeydd wrth gefn ac asedau o werth sylweddol, sy'n debygol o gynyddu yn y dyfodol. Mae rhai o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

  • Mae angen i gynghorau cymuned wella eu hamseroldeb o ran paratoi eu cyfrifon blynyddol ac ansawdd y ffurflenni blynyddol a gyflwynir i'w harchwilio
  • Mae angen i'r sector cyfan wella ei drefniadau ar gyfer pennu cyllidebau.
  • Mae angen i gynghorau cymuned ddangos bod ganddynt system archwilio mewnol ddigonol ac effeithiol ar waith, a'u bod yn cael gwerth llawn o'r gwasanaeth hwnnw.

Nododd yr archwilwyr nifer o faterion sy'n codi dro ar ôl tro y gallai cynghorau ledled Cymru ddysgu oddi wrthynt. O ganlyniad i hyn, gwnaethom gynnal gweminar i rannu enghreifftiau o arfer a dysgu da, gan ganolbwyntio'n benodol ar Gyllidebu ac Archwiliadau Mewnol. Gwnaeth y gweminar ddwyn ynghyd yr arferion diweddaraf o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

At bwy cafodd y gweminar ei hanelu

Roedd y gweminar hon wedi ei hanelu at swyddogion (e.e. Clercod) ac aelodau cynghorau tref a chymuned yng Nghymru.

Roedd aelodau'r panel yn cynnwys:

  • Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru
  • Paul Egan, Un Llais Cymru
  • Mark Gallbraith, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol

Cyfryngau cymdeithasol

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events