Rhannu Data Personol i Wasanaethu Dinasyddion a Chymunedau’n Well

30 Tachwedd 2015
  • Cynhaliom seminar am ddim gyda Llywodraeth Cymru, Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau sy’n Agored i Niwed a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru er mwyn rhannu arferion da, tynnu sylw at enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi ‘mentro rhannu’, a rhoi sylw i rai o’r mythau sy’n gysylltiedig o hyd â rhannu data personol.

    Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi dweud bod pobl eisiau i’w data personol weithio iddynt hwy. Maent yn disgwyl i sefydliadau rannu eu data personol pan mae’n angenrheidiol darparu iddynt y gwasanaethau y maent eu heisiau. Maent yn disgwyl i gymdeithas ddefnyddio ei hadnoddau gwybodaeth i atal troseddu a thwyll ac i gadw dinasyddion yn gwbl ddiogel. Fodd bynnag, mae pobl hefyd eisiau cael gwybod sut mae eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio, pwy sy’n cael mynediad ati, a beth mae’n ei olygu iddynt hwy.
    Yn anffodus, mae enghreifftiau o achosion uchel eu proffil yn parhau i dynnu sylw at y risg o beidio â rhannu gwybodaeth bersonol berthnasol â gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn gwarchod pobl agored i niwed a darparu gwasanaethau gwell i’r partneriaid hynny sydd angen gwybod.
    Yn y cyfnod hwn o gyni, ni ellir parhau i ddarparu gwasanaethau yn yr un ffordd. Gofynnir i wasanaethau gynnig gwell darpariaeth pan mae’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer hynny’n lleihau. Mae sefydliadau wedi cymryd camau cadarnhaol eisoes i wella’r ffordd maent yn rhannu data personol. Fe wnaeth y seminar hon cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i allu rhannu data personol yn well gydag amrywiaeth eang o bartneriaid. Bydd hyn yn gwneud ein dinasyddion a’n cymunedau’n fwy diogel trwy hyrwyddo mwy o gydweithio ac arfer rhannu gwybodaeth dda o fewn y sector cyhoeddus.
    Mae rhannu gwybodaeth yn gymhleth. Fe wnaeth Anne Jones, Comisiynydd Gwybodaeth Gynorthwyol Cymru, mynd i'r afael â mythau cyffredin ac yn rhannu  egwyddorion i ystyried o gwmpas rhannu data'n effeithiol.
    Cynigiodd y seminar hon y canlynol i bawb a ddaw iddi: 
    • Dealltwriaeth o sut mae sefydliadau’n rhannu data ac yn ei ddefnyddio yn eu gwaith
    • Atebion cynaliadwy ar gyfer y sefydliad cyfan o ran sut mae’n rhannu ac yn rheoli data personol yn unol â'r Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)
    • Cyfle i chwalu sawl myth sy’n gysylltiedig â rhannu data                

    I bwy oedd y digwyddiad? 

    Roedd y seminar hon ar gyfer rheolwyr a swyddogion y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn y meysydd canlynol:                       
    • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
    • Penaethiaid Gwasanaeth
    • Arweinwyr Gwarchod y Cyhoedd
    • Uwch Swyddogion Risg Gwybodaeth 

    Cyflwyniadau  

    1. Dymchwel rhwystrau mewnol [PDF 380KB Agorir mewn ffenest newydd] - Francine Salem, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
    2. Nid oes un ateb i bawb - David Teague, Y Comisiynydd Gwybodaeth
    3. Cynllun Braenaru Merched: Cyflawni dull system gyfan ar gyfer grŵp cymhleth o ddefnyddwyr gwasanaeth (PDF) - Jade Theaker a Wendy Kay, Gwasanaeth Prawf Cymru

    Cyfryngau cymdeithasol 

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details