Shared Learning Webinar
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: Camau Bach, Newid Mawr

Yn dilyn ein gweminar diwethaf, bydd y nesaf yn y gyfres ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn symud trywydd y sgwrs tuag at y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dull rhyngweithiol o ddelio â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Edrychodd gweminar Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod y llynedd [Agorir mewn ffenest newydd] ar elfennau allweddol ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, gan bwysleisio gwybodaeth, ymwybyddiaeth ac ymddygiad. Byddwn yn trafod y materion hyn ymhellach ynghyd â thrafod sut i’w cymhwyso.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor adroddiad [Agorir PDF mewn ffenest newydd] ar sut y gall ffynonellau cadernid gan unigolion a chymunedau ddiogelu'r pobl sy'n dioddef o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod rhag eu heffeithiau niweidiol ar iechyd meddwl.

A ydych yn gwneud y gorau o'r hyn rydych yn ei wneud ar hyn o bryd? Dysgwch beth yw dulliau sy'n cael eu llywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a thrawma, a sut y gallwch ddefnyddio hyn yn eich gwaith. Aseswch yr hyn rydych yn ei wneud yn barod a'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei drafod. Bydd cyfle i fyfyrio a gofyn cwestiynau i'r panel am bethau rydych yn cael trafferth â nhw.

Ar gyfer pwy mae'r weminar

Mae'r weminar hon ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â chynllunio, comisiynu, a/neu ddarparu gwasanaethau rheng flaen.

Pryd

12pm – 1:30pm

Dydd Mawrth 12 Mehefin 2018

Cofrestru

I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein isod.

Cylchredir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth drefnu lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

Os ydych yn bwriadu gwrando ar y weminar gyda chydweithwyr, rhowch eu henwau i ni fel y gallwn gofnodi presenoldeb yn gywir.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events