Prif heriau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

12 Ebrill 2019
  • Bydd y gweminarau yma'n awgrymu atebion i heriau sy’n ymwneud â gweithredu cronfeydd a ffyrdd o weithio.

    Mwy am y digwyddiad hwn

    Bydd ein gweminarau yn cynorthwyo Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i weithredu newidiadau i wella'r ffordd y maent yn gweithio. Bydd arbenigwyr yn trafod yr heriau, a chynnig cyngor a chefnogaeth i aelodau a phwyllgorau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. 

    Gweminar 1: Gweithredu'r gronfa: Caerdydd

    Bydd y gweminar hwn yn mynd i'r afael â:
    • heriau'n ymwneud â mesur canlyniadau ac effaith
    • trefniadau llywodraethu
    • systemau wedi'u hymuno, a 
    • rhannu data.

    Gweminar 2: Ffyrdd o weithio: Llanrwst

    Bydd y gweminar hwn yn mynd i'r afael â:
    • materion yn ymwneud ag ymddiriedaeth mewn gweithio partneriaeth,
    • a phwysigrwydd defnyddwyr gwasanaethau mewn dylunio gwasanaethau.
    Bwriedir y digwyddiad hwn i aelodau a phwyllgorau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Swyddogion Llywodraeth Cymru.
     
    Bydd y gweminarau hyn yn cael eu ffilmio a'u darlledu'n fyw. Gallwch anfon cwestiynau i’r panel unrhyw bryd yn ystod y darllediad. Mae cyfle hefyd i ddod i weld y gweminar yn fyw a chymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb wedi hynny.

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.

    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

    Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.

    trefniadau llywodraethu

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details