Sut ydych chi'n ei wneud?
Ffocws y digwyddiad hwn fydd sut y gallwn gynllunio a darparu gwasanaethau efo pobl ifanc sy'n helpu iddynt ateb yr heriau hynny.
Daw'r heriau hyn o amrywiaeth o ffynonellau sydd wedi cael sgyrsiau go iawn â phobl ifanc, gan ofyn iddynt am eu barn ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Mae pobl ifanc eisoes yn cael cyfleoedd ystyrlon i ddylanwadu ar benderfyniadau am eu bywydau. Maent yn helpu i ddylunio gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion yr unigolyn ac yn annog sectorau i ddarparu gwasanaethau ar y cyd.
Mae'r digwyddiad hwn ar agor i bob sector felly os ydych yn rhan o gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n ceisio ymgysylltu a chynnwys pobl ifanc mewn ffordd ystyrlon yna dyma'r digwyddiad i chi.
Ble a phryd
12 Mawrth 2019, 9.30am - 3.30pm
Maes Clwb Criced Morgannwg, Gerddi Soffia, Caerdydd
----------------------------------------------------------------------------------
28 Mawrth 2019, 9.30am - 3.30pm
Canolfan Datblygu Gwledig Glasdir, Llanrwst, Dyffryn Conwy
Cofrestru
I gofrestru, cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein [agorir mewn ffenest newydd]. Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.
Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.