Shared Learning Seminar
Oes rhaid i mi aros yn yr ysbyty?

Yn y seminar hon, caiff enghreifftiau eu rhannu o'r ffyrdd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty sy'n sicrhau canlyniadau gwell i unigolion.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus gydweithio er mwyn darparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru. Er bod gofynion y deddfau hyn yn gymharol newydd, mae sefydliadau eisoes sy'n cydweithio er mwyn darparu gwasanaethau mewn ffyrdd newydd a gwahanol. 

Mae adroddiadau diweddar wedi dod â phrosesau rhyddhau o'r ysbyty i sylw'r cyhoedd ac wedi tynnu sylw at yr effaith y mae oedi wrth ryddhau cleifion yn ei chael ar eu canlyniadau, yn ogystal â phwrs y wlad. Cydnabyddir yn eang bod aros yn yr ysbyty yn hirach nag sydd ei angen yn niweidiol i ganlyniadau tymor hwy cleifion. Mae cydweithio er mwyn helpu unigolion i symud ymlaen i'w cam gofal nesaf yn gwella'r canlyniadau hynny a gall helpu i sicrhau nad ydynt yn dychwelyd i'r ysbyty yn ddiangen, sy'n fuddiol i'r unigolion a'r gwasanaethau.  

Bydd y seminar hon, sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Arfer Da Cymru [agorir mewn ffenest newydd] a Cydffederasiwn GIG Cymru [agorir mewn ffenest newydd], yn rhoi'r cyfle i'r rhai a fydd yn bresennol glywed am ddulliau amrywiol sefydliadau a sectorau gwahanol o gydweithio er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd gwell i ddinasyddion Cymru.

Ar gyfer pwy mae'r seminar 

Mae'r seminar hon ar gyfer:

  • timau iechyd sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu llwybrau iechyd;
  • timau gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol sy'n ail-alluogi;
  • timau therapi mewn ysbytai ac yn y gymuned;
  • timau iechyd meddwl mewn ysbytai ac yn y gymuned;
  • rheolwyr cartrefi preswyl a nyrsio;
  • rrwpiau cymunedol a sefydliadau yn y trydydd sector sy'n cefnogi unigolion.

 Cyflwyniadau

  1. O'r Ysbyty i'r Cartref: Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chymorth Tai [PDF 1MB Agorir mewn ffenest newydd] - Sarah Wills gydag Evee Freitag, Gofal
  2. Prosiect Goleudy [PDF 0.5MB Agorir mewn ffenest newydd] - Jackie Amos gyda Josh Woodrow, Cymdeithas Tai Taf
  3. Prosiect Goleudy Astudiaethau achos [PDF 0.2MB Agorir mewn ffenest newydd]
  4. O'r Ysbyty i'r Cartref: Gofal a Thrwsio [PDF 1MB Agorir mewn ffenest newydd] - Zoe Wallace a Kate Kinsman, Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg gyda Rena Sweeney a Meinir Woodgates, Pen-y-bont ar Ogwr Gofal a Thrwsio, a Neil Williams, Gofal a Thrwsio Cymru
  5. Cadw'n Iach Gartref [PDF 1MB Agorir mewn ffenest newydd] - Emma Ralph, Claire Walker a Amanda Llewellyn, Tîm Cadw'n Iach Gartref

Cyfryngau cymdeithasol

  1. Ewch i weld ein gweithgarwch Twitter o’n digwyddiad #WAOClef [Agorir mewn ffenest newydd]

Blogiau

  1. Oes rhaid i mi aros yn yr ysbyty [Agorir mewn ffenest newydd]
  2. Tri chwestiwn [Agorir mewn ffenest newydd]
  3. Tim Cadw'n Iach Gartref [Agorir mewn ffenest newydd]

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan