Gwneud integreiddio’n realiti – llai o wyddoniaeth, mwy o grefft a gwaith caled

28 Awst 2015
  • Cafodd y seminar dysgu ar y cyd yma ei chynnal mewn partneriaeth â Chonffederasiwn GIG Cymru, ADSS Cymru a WCVA. Edrychodd ar sut gellir integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn well.

    0 "Events"
    
    Mae perthnasoedd yn allweddol er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib, gan fod ffydd a hyder yn ei gilydd yn dod â staff a sefydliadau at ei gilydd. Clywodd pawb ag oedd yn bresennol am sut mae gwasanaethau wedi edrych y tu hwnt i fuddiannau a ffiniau sefydliadol a phroffesiynol er mwyn darparu gwasanaethau integredig i wella bywydau pobl.       
    Mewn cyfnod o gyni, mae’n rhaid i ni wneud y defnydd gorau posib o’r adnoddau sydd ar gael. Rhannodd y gweithdai dulliau amrywiol o weithredu i ddangos sut mae creadigrwydd a chwilfrydedd wedi cael eu ffrwyno a’u dathlu, nid eu llesteirio.   

    At bwy roedd y digwyddiad wedi'i anelu

    Roedd seminar hon ar gyfer darparwyr gofal iechyd a chymdeithasol sy’n fentrau cymdeithasol, cymdeithasau tai, yn y trydydd sector neu’r  sectorau cyhoeddus, preifat ac annibynnol sy’n gweithio yn y swyddi canlynol:
    • Cyfarwyddwyr Meddygol
    • Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
    • Penaethiaid gwasanaethau oedolion / plant
    • Prif Weithredwyr
    • Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio, Gofal Sylfaenol, Iechyd Meddwl Cymunedol, Gwasanaethau Clinigol, Cyllid ac Adnoddau Dynol

    Cyflwyniadau

    Cyfryngau cymdeithasol

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details