Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ein hannog i feddwl ac i weithredu mewn ffordd wahanol, ac mae hyn yn golygu defnyddio data gwahanol a meddwl am y data a ddefnyddir gennym mewn ffordd wahanol er mwyn helpu i lywio'r penderfyniadau a wnawn.
Mae sgiliau penderfynu pa ddata sydd eu hangen arnoch, sut i'w casglu ac wedyn beth i'w wneud â'r data hynny yn angenrheidiol. Mae angen i ni newid y diwylliant a'r ffordd o feddwl am ddata a meithrin y sgiliau o fewn timau, o fewn sefydliadau ac o fewn partneriaethau aml-asiantaeth i gynyddu ein defnydd o ddata i'r eithaf a hwyluso penderfyniadau ar sail data.
Byddwn yn cynnal gweminar a fydd yn anelu at ymdrin â'r heriau uchod yn yr hinsawdd gymhleth sydd ohoni.
I bwy mae'r gweminar
Mae hyn yn hanfodol i unrhyw sefydliad sy'n cynnig gwasanaeth cyhoeddus ac felly rydym wedi cadw proffil mynychwyr yn eang yn fwriadol. Yn arbennig:
- Rheolwyr ac Uwch-Reolwyr sy’n gyrru penderfyniadau;
- Swyddogion sy'n cynllunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus;
- Unrhyw un sy'n ymwneud ag ysgrifennu Cynlluniau BGC;
- Swyddogion sy'n paratoi papurau bwrdd ar gyfer Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus, Byrddau Rhanbarthol, Bwrdd Partneriaeth, uwch dimau rheoli ac ati; ac
- Arweinwyr Polisi.
Pryd
Dydd Mawrth, 16 Hydref 2018
12pm – 1:30pm
Cofrestru
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn ar Get Invited [agorir mewn ffenest newydd]
Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth archebu lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch.
Os ydych yn bwriadu gwrando ar y weminar gyda chydweithiwr, nodwch ei enw (eu henwau) er mwyn i ni allu creu cofnod cywir o'r unigolion sy'n bresennol.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru