Gogledd Cymru - O ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol – Cost methiant mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol

17 Rhagfyr 2024
Chwef 13 Dydd Iau
10:00
16:00
  • Canolfan OpTIC
  • Par Busnes Llanelwy
  • Llanelwy
  • LL17 0JD

About Gogledd Cymru - O ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol – Cost methiant mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol

  • Y digwyddiad hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau yn dilyn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ‘O ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol: yr her i wasanaethau cyhoeddus Cymru', a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024.

    Mae'r adroddiad yn nodi bod cost methiant mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol nid yn unig yn sylweddol o ran cost ymgynghoriaeth a gwasanaethau cyfreithiol, ond hefyd o ran y miloedd o oriau a dreulir gan lawer o wahanol gyrff cyhoeddus yn ymateb i'r materion sylfaenol.

    Ond daw'r effaith andwyol fwyaf o’r ffordd y gall y materion hyn dynnu sylw sefydliad odd ar ei amcanion craidd a'i wasanaethau ar gyfer y cyhoedd.

    Wrth i adnoddau ariannol a dynol gael eu hymestyn, mae'r risg y bydd methiant o ran llywodraethu a/neu fethiannau eraill i wasanaethau yn cynyddu. Nid yw hyn yn ymwneud â systemau a phrosesau yn unig; mae hefyd yn ymwneud ag ymddygiadau a phwysigrwydd dangos ymrwymiad clir i egwyddorion Nolan, sef Anhunanoldeb, Uniondeb, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, Bod yn Agored, Gonestrwydd ac Arweinyddiaeth.

    Bob tro y bydd y cyhoedd yn gweld y math o fethiannau o ran ymddygiad a llywodraethu y mae Archwilio Cymru wedi adrodd amdanynt, mae ymddiriedaeth yn y rhai sy'n arwain ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei niweidio. Mae hynny, yn ei dro, yn ei gwneud hi'n anoddach ennill cefnogaeth y cyhoedd lle mae angen gwneud newidiadau mwy radical.

    Mae'r gyfres hon o ddigwyddiadau yn cynnwys y themâu canlynol: 

    • Cynyddu lled band ar drawsnewid digidol
    • Anelu at gyflawni’r egwyddor datblygu cynaliadwy
    • Mynd i'r afael â thwyll a gwallau
    • Gweithlu'r dyfodol
    • Tirwedd gymhleth gwasanaethau cyhoeddus
    • Profi gwerth am arian

    Bydd rhagor o fanylion am y digwyddiadau hyn ar gael ar ein gwefan yn fuan. Byddwn yn anfon e-bost i'n rhestr bostio pan fydd hi’n bosib archebu. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.

    Byddwn hefyd yn cyhoeddi siaradwyr eraill yn agosach at ddyddiad y digwyddiad, a fydd yn gyfle i ddysgu a rhannu profiadau gyda'ch cyfoedion.

What to expect

Agenda

  • 53.2571835, -3.4493738

Speakers for the event

Max Caller yw Prif Gomisiynydd Cyngor Birmingham ar hyn o bryd yn dilyn ei hysbysiad Adran 114 ym mis Hydref 2023.

Mae Max wedi gweithio mewn llywodraeth leol ers dros 50 mlynedd. Ef oedd Prif Weithredwr Bwrdeistref Hackney a Bwrdeistref Barnet yn Llundain.

Ef hefyd oedd Cadeirydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Lloegr.

Mae ganddo brofiad mewn llawer o ymyriadau cynghorau lleol, gan gynnwys:

  • Comisiynydd yn Slough a Tower Hamlets
  • Arolygydd Gwerth Gorau yn Swydd Northampton a Lerpwl
  • Arolygydd Arweiniol ar gyfer Arolygiadau Gwerth Gorau Lerpwl a Swydd Northampton
Max Caller CBE
Keynote speaker
Register for this event
About You
Name
In person event details