Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus gydweithio er mwyn cyflwyno gwasanaethau gwell i bobl Cymru. Er bod gofynion y deddfau hyn yn gymharol newydd, mae sefydliadau eisoes sydd wedi cydweithio er mwyn cyflwyno gwasanaethau mewn ffyrdd newydd a gwahanol. Er nad ydynt o dan fantell Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ceir enghreifftiau o gymdeithasau tai sydd eisoes yn arwain y sector o ran integreiddio'r pum ffordd o weithio.
Mae tai'n ganolog i iechyd a lles pob dinesydd. Drwy gydweithio â chymdeithasau tai, gall gwasanaethau cyhoeddus eraill gyflwyno gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol, gan ddiwallu anghenion dinasyddion, yn ogystal â'u hamcanion o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Bydd y seminar hon, sydd wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Conffederasiwn Gig Cymru, ac Arfer da Cymru, yn cynnig y cyfle i'r rhai a fydd yn bresennol glywed am nifer o gydweithrediadau rhwng sefydliadau tai a gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn cyflwyno gwasanaethau o ansawdd gwell i ddinasyddion Cymru.
I bwy mae'r seminar
Mae'r seminar hon wedi'i hanelu at reolwyr a swyddogion llywodraeth leol, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tân ac achub, cyrff datganoledig, cymdeithasau tai, elusennau a mentrau cymdeithasol sy'n gwneud y canlynol:
- Cynllunio'r ffordd y cyflwynir gwasanaethau;
- Cyflwyno gwasanaethau; a
- Chomisiynu gwasanaethau
Cyflwyniadau
- Partneriaeth Byw Heb Ofn [PDF 1.8MB Agorir mewn ffenest newydd] - Bronwen Lloyd, Cymdeithas Tai Charter, Grŵp POBL and Rachel Thornett, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cynllun Tai â Chymorth Gwasgaredig Merthyr Tudful [PDF 0.8MB Agorir mewn ffenest newydd] - Sarah Wills, Gofal and Tim Macdermott, Cymdeithas Tai Merthyr Tudful
- Sgiliau Gwledig [PDF 4.5MB Agorir mewn ffenest newydd] - Ceri Bevan, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog and Delyth Thomas, Gwalia Gofal a Chymorth Pobl
- Prosiect 10 Cam i Ysgolion [PDF 1.3MB Agorir mewn ffenest newydd] - Trisha Hoddinott and Georgina James, Cartrefi Melin
- Annibyniaeth o’r Cychwyn [PDF 0.4MB Agorir mewn ffenest newydd] - Adrian Burke and Richard Lloyd, Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf and Steve Garland, Gyfarwyddwyr Garland Independent Social Care Advice
Cyfryngau cymdeithasol
Ewch i weld ein gweithgarwch Twitter o’n digwyddiad #WAOADM [Agorir mewn ffenest newydd]