Shared Learning Webinar
A all yr economi gymdeithasol ein hachub?

Beth all Cymru ei ddysgu o brofiad Gwlad y Basg? 

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

A hoffech ddysgu mwy am y ffordd y gall cymunedau elwa ar yr economi gymdeithasol, ond na allwch ddod i'n cynhadledd diwrnod llawn? Rydym yn cynnal gweminar fyw â chynulleidfa gyda Chris Bolton (rheolwr Cyfnewidfa Arfer Da, @whatsthepont [agorir mewn ffenest newydd]), mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru. Mae croeso i chi ddod i'r gynhadledd neu wrando o bell drwy ein dolen fyw.

Pam y pwnc hwn?

Yn ddiweddar, aeth Chris i Wlad y Basg yn Sbaen fel rhan o'i Gymrodoriaeth Deithio gydag Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill. Gwnaeth yr hyn y mae Chris wedi ei rannu â ni yn ei gyfres o flogiau ysbrydoli tîm y Gyfnewidfa Arfer Da i feddwl 'Waw! Mae angen i ni rannu hyn â'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru'. Gall y gwasanaethau cyhoeddus ddysgu cymaint ohonynt a'u haddasu i weddu i'w hamgylchiadau eu hunain.

Dyma'r blogiau am brofiadau Chris:

Ar gyfer pwy mae'r weminar?

  • Aelodau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Uwch wneuthurwyr penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gwaith o lunio gwasanaethau a mynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas yng Nghymru
  • Academyddion sydd â diddordeb mewn busnesau cydweithredol, ac
  • Ymarferwyr sy'n cyflawni arloesed, busnes cymdeithasol a gweithgareddau cydweithredol.

Ble a phryd

5.30-7.15pm
Dydd Llun 3 Rhagfyr 2018
Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ

Cofrestru

I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein [agorir mewn ffenest newydd]. Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru. Mae hefyd ar gael ar ein tudalen Digwyddiadau i Ddod

Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth drefnu lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

Os ydych yn bwriadu gwrando ar y weminar gyda chydweithiwr, nodwch ei enw (eu henwau) er mwyn i ni allu creu cofnod cywir o'r unigolion sy'n bresennol.

Os byddwch yn mynd i'r gynhadledd, bydd brechdanau ar gael ar eich cyfer. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, e-bostiwch Arfer.Da@archwilio.cymru

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan