Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ein hadroddiad yn esbonio sut mae rheoli perygl llifogydd yn gweithio yng Nghymru
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar sut mae rheoli risg llifogydd yn gweithio yng Nghymru ac yn edrych ar y prif heriau sy'n wynebu'r sector. Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at argymhellion pwysig yr adolygiadau diweddar ac mae'n rhan o'n gwaith parhaus yn edrych ar sut mae cyrff cyhoeddus yn ymateb i heriau newid hinsawdd.
Gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar unigolion, yr economi a'r amgylchedd ac er gwaethaf buddsoddiad parhaus, maent yn parhau i fod yn berygl mawr i'r wlad. Mae newid hinsawdd, lefelau'r môr cynyddol a lefelau glawiad uwch yn cynyddu'r siawns y bydd llifogydd yn digwydd.
Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at sawl her allweddol sy'n wynebu'r sector llifogydd, gyda chapasiti'r gweithlu yr un mwyaf dybryd.