Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Angen mwy o frys i ymdrin â’r heriau a wynebir o ran rheoli perygl llifogydd

15 Rhagfyr 2022
  • Penderfyniadau anodd i ddod ynglŷn â rheoli perygl llifogydd mewn cymunedau lleol

    Newid hinsawdd, costau cysylltiedig llifogydd a chapasiti’r gweithlu yw rhai o’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector llifogydd.

    Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi profi effeithiau dinistriol llifogydd ac, er gwaethaf buddsoddi parhaus, mae llifogydd yn dal i fod yn berygl mawr i’r wlad. Gyda thywydd eithafol fel hyn yn debygol o ddigwydd yn fwy mynych, mae ein hadroddiad yn ystyried sut y mae rheoli perygl llifogydd yn gweithio yng Nghymru a materion allweddol i’r sector.

    Mae newid hinsawdd yn cynyddu peryglon a chostau cysylltiedig llifogydd. Mae codiadau mewn lefelau môr a lefelau glawiad uwch yn cynyddu’r siawns y bydd llifogydd yn digwydd. Mae digwyddiadau mis Chwefror 2020 a stormydd Ciara a Dennis yn enghreifftiau llwm sy’n ein hatgoffa o effaith tywydd eithafol, gyda 3,130 o unedau eiddo yng Nghymru’n rhai y gwyddys eu bod wedi cael llifogydd.

    Mae costau sylweddol yn gysylltiedig â rheoli perygl llifogydd. Yn 2021-22, darparodd Llywodraeth Cymru £59.6 miliwn o gyllid i reoli perygl llifogydd. Bydd angen buddsoddiad hirdymor sylweddol i fynd i’r afael â’r risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd a llifogydd, tra bydd chwyddiant yn rhoi pwysau ar gyllidebau presennol. Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i flaenoriaethu adnoddau y mae pen draw iddynt.

    Y flaenoriaeth fwyaf uniongyrchol i’r sector llifogydd yw cynyddu capasiti’r gweithlu. Mae’r gweithlu cyfredol dan bwysau, a heb gapasiti ychwanegol yn y gweithlu a hynny yn y meysydd cywir bydd hi’n anodd ymdrin â’r heriau sy’n wynebu’r sector. Mae rheoli perygl llifogydd yn faes arbenigol, sy’n gofyn sgiliau eang y mae’n anodd dod o hyd iddynt.

    Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi nifer o faterion allweddol eraill sy’n effeithio ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru:

    • Mae bylchau o ran arweinyddiaeth ar y cyd ac integreiddio polisi.
    • Mae bylchau mewn data ar berygl llifogydd ac mae’r peryglon eu hunain yn newid drwy’r amser gyda newid hinsawdd.
    • Gallai datblygu adeiladau mewn ardaloedd sydd mewn perygl mawr fod yn gadael aelwydydd a busnesau’n agored i berygl llifogydd y gellir ei osgoi.
    ,
    Rydym wedi gweld effaith ofnadwy llifogydd ar ein cymunedau a’r economi ac mae newid hinsawdd yn golygu bod hyn yn debygol o ddigwydd yn fwy mynych. Nid yw’r materion yn newydd. Mae ein gwaith archwilio blaenorol ac adolygiadau eraill wedi amlygu’r angen i weithredu o ran cynllunio tymor hir, addasu i newid hinsawdd a meithrin capasiti’r gweithlu. Er gwaethaf rhai datblygiadau cadarnhaol, mae cwestiynau difrifol ynghylch gallu gwasanaethau cyhoeddus i aros gyfuwch â’r peryglon a’r heriau cynyddol sy’n gysylltiedig â llifogydd. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Darlun o Reoli Perygl Llifogydd

    Gweld mwy