Sicrhau bod y glaswellt yn parhau i fod yn wyrdd ar gyfer cymunedau gwledig

05 Tachwedd 2020
  • Gyda'r gaeaf yn prysur nesáu, mae’r haf hir a phrysur y bu inni ei dreulio'n ymgysylltu â chymunedau gwledig ledled Cymru gyfan yn teimlo fel atgof cynyddol bell.

    Fel archwilwyr, nid yn aml rydyn ni’n cael y cyfle i fynd allan ar lawr gwlad a chlywed gan ddinasyddion am bethau sydd o bwys iddyn nhw. Ond eleni dyna’n union beth rydyn ni wedi’i wneud, trwy fynychu nifer o sioeau amaethyddol a sirol – gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru gyda'n cydweithwyr yn Arolygiaeth Cymru [agorir mewn ffenest newydd] – i wrando ar brofiadau pobl o fyw a gweithio yng Nghymru wledig.

    Mae i gyd yn rhan o'n hastudiaeth llywodraeth leol sy'n edrych ar ba mor effeithiol yw cyrff cyhoeddus Cymru wrth ddarparu a chynnal gwasanaethau mewn cymunedau gwledig. Yn ôl ym mis Awst bu i fy nghydweithiwr Gareth flogio am ymgysylltiad a'r defnydd o arolygon cyhoeddus wrth gyfrannu at waith Swyddfa Archwilio Cymru [agorir mewn ffenest newydd].

    Er ein bod wedi cael ymateb cadarnhaol ar-lein i'n harolwg 'Fy Ngwasanaethau Gwledig', mae mynd allan i wrando ar brofiadau pobl o wasanaethau gwledig yn eu bywydau pob dydd a chasglu'r profiadau hynny wedi ein helpu'n fawr iawn i sicrhau bod ein hastudiaeth yn canolbwyntio ar y materion sydd wir o bwys i bobl. Cawson ni bron i 700 o sgyrsiau â dinasyddion cymunedau gweledig dros yr haf ac yn awr, wrth inni gychwyn ar ail gam ein hastudiaeth, mae'r themâu sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â'r hyn sydd o bwys i bobl yn dod yn gliriach.

    Felly, beth ydyn nhw? Wel, er y byddai rhai yn ystyried bod gwasanaethau cyhoeddus yn sector amlwg wedi'i ddiffinio'n daclus, mae'r realiti'n wahanol iawn. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn chwarae rhan mewn bywyd gwledig, ond wedi'u cydblethu â heriau megis busnesau lleol yn cau a chenedlaethau medrus, iau yn allfudo – sydd i gyd yn ffurfio rhwystrau i fywiogrwydd cynaliadwy cymunedau gweledig.

    Mae colli gwasanaeth mewn cymuned wledig yn gallu cael effaith lymach nag mewn lleoliadau trefol, ac yn aml y gwasanaethau a'r cyfleusterau rydyn ni i gyd yn eu cymryd yn ganiataol yw'r ffactor sy'n pennu a yw cymuned yn gynaliadwy neu beidio. Rhaid i wasanaethau cyhoeddus weithio dros bobl ac, yn erbyn cefndir o bwysau cyllidebol cyson, mae angen i lywodraeth leol ddod o hyd i ffordd o gynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

    Mae cydnabyddiaeth hirsefydlog o heriau darparu gwasanaethau cyhoeddus teg a chyfiawn mewn ardaloedd gwledig. Bydd y boblogaeth wasgarog a'r gost, y pellter a'r heriau mynediad cysylltiedig yn golygu nad yw'n bosibl cyflunio gwasanaethau gwledig yn yr un modd ag a fyddai'n bosibl mewn canolfannau trefol.  Mae'r themâu sy'n dod i'r amlwg o arolwg 'Fy Ngwasanaethau Gwledig' a digwyddiadau ymgysylltu yn adlewyrchu'r heriau hyn.

    Er inni dderbyn sylwadau am bob math o wasanaethau a materion – o ailgylchu i gasglu ysbwriel, i dyllau yn y ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus – mae'r holl 700 o sylwadau bron yn perthyn i un o'r pum categori canlynol:

    • y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu cyflunio
    • hygyrchedd gwasanaethau (gan gynnwys fforddiadwyedd)
    • problemau trafnidiaeth
    • ymgysylltu â darparwyr gwasanaeth
    • yr effaith negyddol pan nad yw gwasanaethau'n gweithio dros bobl

    Mae cam nesaf ein hastudiaeth yn cynnwys gwaith maes mewn nifer o sefydliadau llywodraeth leol, gan gynnwys awdurdodau parciau cenedlaethol Cymru, awdurdod heddlu, awdurdod tân ac achub, a nifer o gynghorau tref a chymuned unedol. Mae defnyddio ein sgyrsiau â dinasyddion fel sylfaen ar gyfer y gwaith hwn yn rhoi sicrwydd inni ein bod yn canolbwyntio ar y materion cywir.

     

    O ran sut mae cyrff llywodraeth leol yn ymateb i'r heriau hyn... gwnawn ni roi gwybod ichi am hynny maes o law. A yw'r themâu hyn yn adlewyrchu'r problemau yn eich cymuned wledig chi? Mae ein harolwg cyhoeddus cychwynnol bellach wedi cau, ond os hoffech ddweud eich dweud wrthon ni o hyd, cewch anfon e-bost at dîm yr astudiaeth yn gwledig@archwilio.cymru.

    Euros LakeYnglŷn â'r awdur

    Mae Euros Lake yn Archwilydd Perfformiad sy’n gweithio yn y Tîm Astudiaethau Cenedlaethol Llywodraeth Leol. Mae wedi gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru ers pedair blynedd mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys polisïau'r iaith Gymraeg a chyfathrebu. Y tu allan i'r gwaith, mae Euros yn mwynhau beicio a dilyn hynt a helynt Clwb Rygbi Gleision Caerdydd.