Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Bydd yn cymryd amser inni adfer o bandemig byd-eang. Mae’r cyrff cyhoeddus sy'n ein cadw'n ddiogel, yn iach a heini at y dyfodol yn canfod eu hunain mewn byd newydd, gyda phroblemau ariannol i fynd i'r afael â nhw, newid o ran ymddygiad a disgwyliadau dinasyddion ac ymwelwyr, a gweithluoedd sydd angen addasu i ffordd newydd o weithio. Bydd rhaid i bob un ohonom ddelio â risgiau ychwanegol, ac efallai y bydd dychwelyd at yr hen drefn 'arferol' yn cymryd cryn amser, os o gwbl.
Mae'r canlyniadau'n debygol o bara am sawl blwyddyn i'r rhan fwyaf o sefydliadau. Ond bydd cyfleoedd i gnoi cil ar bethau hefyd:
Fel rhan o'r broses fyfyriol hon, mae cyfleoedd i ddysgu o brofiad gwledydd eraill sydd wedi gorfod wynebu argyfyngau mawr.
Wrth i Archwilio Cymru ddechrau ystyried sut mae cyrff cyhoeddus Cymru yn bwrw ati gyda'u cynlluniau adfer, rydym wedi cyfuno rhai o negeseuon pwysig o bob cwr o'r byd sy'n dangos rhai o'r camau llwyddiannus (neu beidio) a gymerwyd wrth ymateb i'r pandemig.
Gellir defnyddio a chyflwyno'r hyn a ddysgwyd i unrhyw haen o lywodraeth – cenedlaethol, rhanbarthol neu leol – ac unrhyw wasanaeth cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i bobl.
Rhywbeth cylchol yw'r broses o ymateb i, ac adfer o bandemig – mae pob cylch yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â phroblemau hirsefydlog
Nid rhywbeth cyffredinol mo'r diffiniadau newydd o adferiad, nac amseriad na phwyslais hynny chwaith. Yma yng Nghymru, y neges o'r brig oedd ystyried y pandemig fel sbardun i newid pethau, a bod cyfnod o adfer yn gyfle i naill ai addasu neu gael gwared ar arferion sydd wedi hen ddal cyrff cyhoeddus yn ôl. Mae adferiad felly yn gyfle i 'adnewyddu' yn hytrach na 'dychwelyd' i fusnes fel arfer cyn-COVID-19.
Mae gwaith labordy RSA[1] ar ddeall mesurau ymateb i argyfwng yn adleisio hyn. Daethpwyd i'r casgliad bod adferiad yn ystod pandemig yn wahanol i adferiad ar ôl trychineb un digwyddiad, yn digwydd ochr yn ochr â'r ymateb ac yn ymarfer parhaus o brofi-a-methu. Nid rhywbeth llinol, sy'n dilyn y llall mohono. Mae pandemigau yn gweithio mewn cylchoedd ac rydych chi'n symud rhwng ymateb ac adfer yn aml.
Mae'r Committee on Data of the International Science Council (CODATA[2]) yn cynrychioli'r 'llanw a thrai' hwn fell tynnwr corcyn - ffigur 1.
Yn bwysig, dywed CODATA bod ystyried pandemig fel 'cylchoedd gweithgarwch' yn ategu'r angen i ddysgu, newid ac addasu. Iddyn nhw, roedd COVID-19 yn sbardun i waredu arferion a oedd chwythu eu plwc a rhoi blaenoriaeth i arloesi - mae'r rhesymau pam na allech ni newid pethau, a oedd yn aml yn llesteirio cynnydd yn y gorffennol, bellach yn llai perthnasol, a phroblemau y credwyd eu bod yn anodd mynd i’r afael â nhw, bellach yn bosib eu datrys. Mae angen i gyrff cyhoeddus fanteisio ar y cyfnod digyffelyb hwn a gwneud penderfyniadau dewr a beiddgar.
Mae ymchwil Sefydliad Iechyd y Byd i bandemigau ac argyfyngau mawr yn tynnu sylw cyrff cyhoeddus at arferion dysgu gwerthfawr ynglŷn â hysbysu a dylanwadu ar y modd mae pobl yn ymddwyn er mwyn atal galw diangen[3]. Mae'r rhain yn egwyddorion pwysig y gellir eu cymhwyso i unrhyw gorff cyhoeddus sy'n ymateb i argyfwng neu sy’n ailagor neu’n addasu gwasanaeth. Gellir eu crynhoi i'r negeseuon allweddol canlynol:
Yn Seland Newydd, roedd y Prif Weinidog ac uwchaelodau'r Cabinet yn cyfathrebu'n effeithiol â'r genedl gyda datganiadau dyddiol clir a chryno am y sefyllfa. Bu'r Prif Weinidog yn rhoi diweddariadau bob amser cinio, a oedd yn debyg i'r hen ddarllediadau radio adeg y rhyfel, ond trwy'r cyfryngau cymdeithasol heddiw. Roedd negeseuon y llywodraeth yn glir ac wedi'u cydlynu gan yr ‘All of Government Response Group’ a gyflwynodd y cyfyngiadau fesul pedwar cam, a'r amodau roedd rhaid eu bodloni cyn symud o un cam i'r llall. Roedd y Grŵp yn dibynnu'n drwm ar wybodaeth wyddonol [5]. Hefyd, bu'r Llywodraeth yn cynnwys ac yn ymddiried mewn dinasyddion, gan ddefnyddio cyfres o bosteri [6] dan y slogan 'a team of five million' i ddisgrifio eu hymdrechion ar y cyd, er mwyn annog ymddygiad. Roedd pobl yn ymddiried yn eu llywodraeth i wneud y peth iawn. Roedd pobl yn cefnogi'r dull hwn ac yn ei weld fel cenedl yn ymateb i frwydro yn erbyn y feirws a'i drechu.
Mae agwedd Singapore at y pandemig wedi elwa ar brofiad y wlad o orfod rheoli cyfres gyflym o heriau iechyd cyhoeddus diweddar. COVID-19 yw'r pedwerydd achos mawr o safbwynt iechyd y cyhoedd mae'r wlad wedi gorfod delio ag ef yn y ddau ddegawd diwethaf[7].
Yn y flwyddyn 2000, cafwyd achos o glwy'r traed a'r genau yn y wlad a arweiniodd at 3,000 o heintiau a thair marwolaeth. Dilynwyd hyn gan epidemig SARS neu'r 'syndrom anadlu acíwt difrifol' yn 2003, pan heintiwyd 238, gyda 33 yn marw. Ym 2009 cafodd y wlad ei heintio gan achosion o ffliw adar H1N1 a arweiniodd at heintio 1,348 o bobl, ac at 18 yn marw. Ac yn olaf, yn 2020, COVID-19, sydd wedi gweld 42,995 o heintiau a 26 o farwolaethau[8].
Singapore oedd yn un o'r gwledydd cynharaf i ganfod coronafeirws, ac ar ddechrau mis Chwefror roedd yn agos at frig rhestr yr achosion a gadarnhawyd fesul tiriogaeth. Ac eto, nid chafwyd cynnydd esbonyddol mewn achosion. Mae rhai o'r rhesymau dros y rhain yn unigryw i system Singapore, sydd wedi buddsoddi'n helaeth mewn paratoi ar gyfer achosion a meithrin gallu'r seilwaith gofal iechyd ar ôl SARS yn 2003. Adeiladodd Singapore dasglu ar draws sawl asiantaeth y Llywodraeth i gydlynu ymyriadau a negeseuon yn ystod unrhyw bandemig yn y dyfodol. Profwyd y tasglu hwn yn 2009 adeg pandemig H1N1. Cafodd ei ailgynnull ym mis Ionawr 2020 ar gyfer COVID-19[9].
Un o'r gwersi pwysicaf i Lywodraeth Singapore wrth ymdrin ag achosion cynharach oedd gweithredu'n gyflym ac yn bendant. Aeth Singapore ati'n rhagweithiol i osod cyfyngiadau teithio ar deithwyr o dir mawr Tsieina gan fynd yn groes i honiad Sefydliad Iechyd y Byd nad oedd angen gwaharddiadau teithio. Fe dalodd economi'r hyb rhyngwladol hwn yn ddrud iawn am y rhagofalon hyn, gan eu bod yn dibynnu ar dir mawr Tsieina fel eu prif bartner masnachu ac fel ffynhonnell dwristiaeth hefyd. Yn sgil profiad, roedd y Llywodraeth wedi dysgu bod rhaid iddi fod yn ystwyth ac yn gyflym wrth ymateb yn effeithiol i’r sefyllfa heriol.
Yn yr un modd, camau pendant tebyg yw'r rheswm pam mai Llywodraeth Seland Newydd sydd wedi llwyddo orau wrth fynd i'r afael â COVID-19. Er na wnaeth y wlad wahardd teithio o Tsieina tan 3 Chwefror (diwrnod ar ôl yr Unol Daleithiau) a bod taflwybr yr achosion newydd yn ymddangos yn ddireolaeth ganol mis Mawrth, fe wnaeth camau pendant helpu'r Llywodraeth i reoli lledaeniad y feirws.
Mae’r allwedd i lwyddiant Seland Newydd yn ddull y gellid ei ddefnyddio yn unrhyw le - symud yn gyflym, profi'n eang, a dibynnu'n helaeth ar wyddoniaeth dda. Fel llawer o wledydd, roedd gan Seland Newydd fodelau a ddangosai y gallai pandemig posibl fod yn drychinebus oni chymerir camau pendant. Yn wahanol i rai gwledydd eraill, ymatebodd Seland Newydd yn gymharol gyflym[10].
Ar 14 Mawrth, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai angen i unrhyw un sy'n dod i mewn i'r wlad hunanynysu am bythefnos - un o'r cyfyngiadau ffiniau llymaf yn y byd ar y pryd. Roedd gan y wlad chwe achos ar y pryd. Ac ar 23 Mawrth, pan ddaeth y cyfyngiadau symud i rym, roedd 102 o achosion wedi eu cadarnhau - a dim marwolaethau. Bu camau gweithredu pendant, llym a chynnar o gymorth i Lywodraeth Seland Newydd ddileu'r feirws ar ei waethaf.
Daeth pob rhan o'r sector cyhoeddus ynghyd i gyrraedd y nod o ddileu COVID-19, ac roedd creu a hyrwyddo trefniadau llywodraethu tryloyw a strwythurau cydweithredol o gymorth i ennyn cefnogaeth ac ymddiriedaeth y cyhoedd. Arweiniodd hyn at ddychwelyd i'r drefn arferol dri mis wedi dechrau'r cyfyngiadau symud llym.
Ewch ati i gymharu’r camau pendant yn Seland Newydd â'r ymateb yn Ewrop, lle mae difrifoldeb yr achosion wedi'i briodoli i ymatebion araf Llywodraethau. Er enghraifft, caniatáu digwyddiadau chwaraeon, cynadleddau ac arddangosiadau i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod er gwaethaf effaith a lledaeniad COVID-19 ar hyd a lled y byd.
Mae data yn elfen ganolog o'r ymdrechion byd-eang i frwydro yn erbyn COVID-19 drwy ganfod feirysau, lliniaru lledaeniad, triniaethau a brechlynnau. Caiff ymatebion polisi cyhoeddus eu llywio gan ddata dadansoddeg ac maen nhw’n dibynnu’n llawn cymaint arnyn nhw hefyd. Mae mynediad at ddata amser real yn hanfodol i ddeall y feirws, addasu gwrthfesurau polisi cyhoeddus fel ymbellhau cymdeithasol ac olrhain cysylltiadau, a chyflymu ymchwil a datblygu ar ddiagnosteg, triniaethau a brechlynnau. Mae angen i bobl hefyd ymddiried bod llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn defnyddio data at y dibenion a fwriadwyd yn unig.
Yr allwedd i’r modd yr aed i’r afael yn llwyddiannus â’r feirws yn Seland Newydd oedd y gefnogaeth a gafodd llunwyr penderfyniadau gan dîm o wyddonwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol a oedd yn coladu, dehongli a chyhoeddi data i lywio'r broses o wneud penderfyniadau[11]. Rhoddwyd cryn bwyslais ar ddata a chydnabuwyd ei fod yn hanfodol nid yn unig er mwyn rheoli'r feirws ond er mwyn deall goblygiadau'r pandemig hefyd. Trwy ei ddangosfwrdd COVID-19 [agorir mewn ffenestr newydd], cafodd data ei rannu ar led yn gwbl agored ac roedd pobl yn ymddiried ynddo - gan helpu'r wlad i lacio'r cyfyngiadau symud yn llwyddiannus.
Defnyddiwyd data ffonau clyfar yn Singapore, Tsieina, Taiwan, De Corea ac Awstralia, i olrhain lleoliad a chysylltiadau unigolion a oedd wedi profi'n bositif am COVID-19 neu er mwyn gorfodi gorchmynion cwarantin. Er enghraifft, fe wnaeth dros filiwn o bobl lawrlwytho ap llywodraeth Awstralia – COVIDsafe [agorir mewn ffenestr newydd] - o fewn 12 awr i'w ryddhau. Ystyrir bod dadansoddi'r data a gasglwyd yn hanfodol er mwyn casglu gwybodaeth ddefnyddiol i atal llif y pandemig.
Er mwyn i gyrff cyhoeddus ailagor neu ad-drefnu cyfleusterau neu amwynderau yn llwyddiannus, mae'n rhaid ymdrin â’r dasg anodd o gasglu'r data cywir, ei ddefnyddio er mwyn helpu i ddeall eu gwasanaethau a harneisio'r wybodaeth sydd ynddo er mwyn penderfynu beth i'w wneud a phryd. Nid yw'r dull hwn yn wahanol ar gyfer unrhyw agwedd ar wasanaeth cyhoeddus – ailagor cyfleusterau hamdden, safleoedd ailgylchu neu pryd i ailddechrau llawdriniaethau arferol. Gall data fod yn sbardun i benderfyniadau. Mae angen ei ddadansoddi'n aml; ei drafod a'i herio i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.
Mae gan Gymru fframwaith ar waith eisoes a all helpu i ysgogi cyrff cyhoeddus i wneud dewisiadau wrth ymateb i'r Coronafeirws - Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r argymhellion o arferion da rhyngwladol a nodwyd uchod yn cyd-fynd yn naturiol â'r pum 'ffordd o weithio' a gallant helpu i lunio ymateb unigryw Cymru o ran ymateb-adfer wedi COVID-19. Wrth edrych ar rai o'r gwersi o dramor ac ystyried y newidiadau a welsom yng Nghymru, mae'r gwasanaethau cyhoeddus wedi cynllunio eu hymateb ar sail hyn - Ffigur 2.
Mae Cymru eisoes yn dysgu ei ffordd o ran sut i ymateb yn effeithiol i'r pandemig. Gall adeiladu ar iaith a phrosesau sefydledig a'u defnyddio i gefnogi'r newid trawsnewidiol hwn. Yn yr un modd, mae'r dulliau dysgu sefydledig a geir mewn fforymau gwasanaethau cyhoeddus cenedlaethol a fforymau sectorau penodol yn helpu cynghorau, heddluoedd a gwasanaethau tân ac achub i ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd gan gymheiriaid i ysgogi gwelliannau.
Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf bydd Archwilio Cymru yn cefnogi ac yn adrodd yn ôl ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i lywio eu hymateb a'u hadferiad a chadw pawb yn ddiogel. Rydym wedi paratoi'r papur hwn er mwyn rhoi rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol o'n hadolygiad o sut mae gwledydd a llywodraethau eraill, gwasanaethau brys ac asiantaethau arbenigol wedi ymateb i bandemigau.
Awduron: Nick Selwyn, Steve Frank a Bob Lloyd
[1] Mae'r Royal Society of the Arts yn gwneud gwaith ymchwil ar feysydd amrywiol gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau, dysgu a datblygu creadigol a'r economi, menter a masnach.
[2] Nod CODATA yw hyrwyddo cydweithio byd-eang i wella argaeledd a defnyddioldeb data ar gyfer pob maes ymchwil. Mae CODATA yn cefnogi'r egwyddor y dylai data a gynhyrchir gan waith ymchwil ac sy'n agored i'w ddefnyddio ar gyfer ymchwil, fod mor agored â phosibl ac mor gaeedig ag y bo angen. Daw hyn o gyfnodolyn Progress in Disaster Science [agorir mewn ffenestr newydd] a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020.
[3] https://www.who.int/publications/i/Item/risk-communication-and-community-engagement-Readiness-and-initial-response-for-novel-coronaviruses-(-ncov) a https://covid-19-response.org/Pillar/2
[4] https://www.swissinfo.ch/eng/covid-19_coronavirus--the-situation-in-switzerland/45592192
[5] https://covid19.govt.nz/covid-19/covid-19-all-of-government-response-group/#mission
[6] https://covid19.govt.nz/updates-and-resources/posters/
[7] https://www.moh.gov.sg/diseases-updates/being-prepared-for-a-pandemic
[8] https://www.moh.gov.sg/diseases-updates
[9] https://www.moh.gov.sg/docs/librariesprovider5/default-document-library/multi-ministry-taskforce-on-wuhan-coronavirus-and-tor---terfynol .pdf a https://www.MOH.gov.SG/News-highlights/details/ministerial-statement-on-whole-of-Government-response-to-the-2019-novel-coronavirus-(2019-ncov)
[10] https://covid19.govt.nz/updates-and-resources/data-and-statistics/
[11] https://www.health.govt.nz/publication/covid-19-modelling-and-other-commissioned-reports