Rhannwch eich barn: A yw'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar y trywydd iawn?

27 Medi 2021
  • Mae ysgolion ac athrawon yn wynebu gwaith mawr i adennill ar ôl pandemig COVID-19 sy'n parhau i effeithio ar les a dysgu disgyblion.

    Ar yr un pryd, maent yn paratoi ar gyfer diwygio'r cwricwlwm ysgol mwyaf ers cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol ym 1988.

    Bydd Cwricwlwm newydd Cymru yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2022.

    Rydym am gael gwybod a yw'r paratoadau ar y trywydd iawn. Rydym am glywed gan y rhai sy'n ymwneud ag addysg – gan gynnwys athrawon a rhieni – am y paratoadau ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm newydd Cymru.

    Gallwch ai gwblhau ein harolwgar-lein [agorir mewn ffenest newydd]

    Sut mae Cwricwlwm newydd Cymru yn wahanol?

    Mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn wahanol i'r cwricwlwm presennol mewn rhai ffyrdd pwysig:

    • bydd y ffordd y mae plant yn dysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn wahanol; bydd dysgu'n canolbwyntio mwy ar sgiliau a phrofiadau, yn ogystal â gwybodaeth;
    • bydd gan athrawon fwy o ryddid i addysgumewn ffyrdd sydd orau i'w dysgwyr yn eu barn hwy;
    • Mae'r cwricwlwm newydd ar gyfer pob disgybl 3-16 oed. Ni fydd cyfnodau allweddol na Chyfnod Sylfaen penodol ar gyfer plant 3-7 oed;
    • Caiff pynciau eu grwpio'n chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Bydd mwy o bwyslais ar y cysylltiadau rhwng pynciau;
    • Cynhelir asesiadau o ddydd i ddydd i edrych ar gynnydd pob disgybl, cytuno ar y camau nesaf a gwirio cynnydd. Bydd profion ar ddiwedd cyfnodau allweddol yn mynd; a
    • bydd cymwysterau TGAU yn dal i fodoli ar gyfer diwedd addysg orfodol. Byddant yn edrych yn wahanol i adlewyrchu'r cwricwlwm newydd.

    Y ffordd i ddiwygio'r cwricwlwm

    Mae'r cwricwlwm newydd yn rhan o raglen fawr i ddiwygio addysg sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y degawd diwethaf.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda gweithwyr addysg proffesiynol i ddatblygu'r cwricwlwm newydd ers 2014.

    Roedd cynllun gweithredu 2017 yn nodi sut y byddai'n cyflawni ei nod i'r cwricwlwm newydd fod yn barod ar gyfer pob disgybl cynradd ac ar gyfer blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd o fis Medi 2022.

    Disgwylir i'r arholiadau cyntaf ar gyfer disgyblion sy'n seiliedig ar y cwricwlwm newydd fod yn ystod haf 2027.

    Pam mae Archwilio Cymru yn edrych ar Gwricwlwm Cymru?

    O ystyried pa mor bwysig yw'r diwygiad hwn i ddisgyblion, rhieni ac eraill yng Nghymru, rydym am ystyried a yw cynlluniau gweithredu Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn.

    Mae pryderon wedi'u codi ynghylch adnoddau ac amserlenni yn ogystal ag effaith y pandemig.

    Mae ein cydweithwyr yn Estyn – arolygiaeth yr ysgolion – wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i ddarganfod sut mae eu paratoadau'n mynd rhagddynt. Yn seiliedig ar hyn, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd y cwricwlwm newydd yn orfodol mewn ysgolion cynradd o fis Medi 2022.

    Fodd bynnag, mae wedi rhoi rhywfaint o le i ysgolion uwchradd anadlu; ni fydd y cwricwlwm newydd yn orfodol ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8 tan fis Medi 2023.

    Pam yr ydym yn gwneud y gwaith hwn?

    Dim ond dechrau'r broses hir o ddiwygio'r cwricwlwm fydd mis Medi 2022, ond yr ydym am gymryd gwiriad tymheredd yn awr, cyn y dyddiad cychwyn. Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad yn gynnar y flwyddyn nesaf.

    Mae ein gwaith yn gyfle i ddarganfod pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli'r broses ac i archwilio unrhyw rwystrau rhag gweithredu'n llwyddiannus ac yn amserol.

    Ynglŷn â’r awdur

    Mae Claire Flood-Page yn archwilydd perfformiad.