Cyhoeddiad Amgylchedd ac amaethyddiaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru - Arian Cyhoeddus Coetir Ffynone ... Ym mis Gorffennaf 2009, cysylltodd aelodau o'r gymuned leol a Chadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol â ni ar sail gohebiaeth debyg i ohebiaeth a anfonwyd at y pwyllgor. I grynhoi, y prif bryderon oedd bod yna fethiannau difrifol mewn cysylltiad â'r grant a ddyfarnwyd i Calon megis: dyfarnu grant a lywiwyd ar gyfer grwpiau cymunedol i gwmni preifat heb ymgynghoriad cymunedol cyn dyfarnu’r grant; bod llawer o'r wybodaeth a ddarparwyd i ategu'r cais am arian yn camarwain yn fwriadol, yn camliwio ac yn anghywir; nad oedd y broses grant yn dryloyw. Mewn ymateb i'r pryderon hyn rydym wedi ystyried a oedd yr arian cyhoeddus a ddyfarnwyd i Calon gan y Comisiwn yn briodol, yn ddiduedd ac yn unol â'r meini prawf y cytunwyd arnynt. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Cynnal gwerth am arian yng ngwasanaeth yr heddlu Mae gwariant yr heddlu wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae troseddu wedi lleihau ac mae hyder cyhoeddus wedi cynyddu ond er bod y lefelau cyllid wedi codi mae’r broses o graffu a herio gwariant wedi bod yn wael. Mae’r adroddiad hwn yn darparu fframwaith ar gyfer newid wrth ddefnyddio dull trawsffurfiol mewn cyswllt â bygythiad, niwed a risg ac yn herio’r heddlu i wneud arbedion sylweddol yn y dyfodol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Addysg a sgiliau Buddsoddi Cyfalaf mewn Ysgolion Ystyriwyd p’un a yw’r rhaglen buddsoddi cyfalaf mewn ysgolion wedi’i rheoli yn y ffordd orau posibl. Cwblhawyd gwaith maes yr astudiaeth yn ystod 2008-09. Gweld mwy
Cyhoeddiad Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cael budd o ddatblygu a... Er mwyn gwella'r broses o gyflwyno adroddiadau ariannol a rheoli, yn 2006 penderfynodd SYG uwchraddio ei swyddogaeth ariannol a chreu swyddi rheolwr ariannol a chyfrifydd ariannol newydd. Gweld mwy
Cyhoeddiad Adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol - ... Every year Rydym yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol bob blwyddyn, sydd yn crynhoi ein gwaith dros y 12 mis diwethaf. Mae'n nodi ein huchafbwyntiau, llwyddiannau a'n ffocws yn y dyfodol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Briffio Cenedlaethol Rheoli Adeiladau Adolygwyd y trefniadau rheoli tir ac adeiladau gennym mewn 30 o'r cyrff mwy yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys llywodraeth leol, yr heddlu, tân, a'r rhan fwyaf o gyrff llywodraeth ganolog. Yn y GIG cynhaliwyd adolygiad canolog, wedi ei ategu gan waith maes cyfyngedig cyn yr ad-drefnu diweddar. Llywiwyd trefniadau ar gyfer rheoli tir ac adeiladau'r GIG gan ystod o bolisïau a gweithdrefnau Cymru gyfan sydd wedi darparu'r sail ar gyfer dull gweithredu mwy cyson yn y sector hwnnw. Hefyd cynhaliwyd 'seminarau dysgu a rennir' ledled Cymru er mwyn cefnogi'r gwaith o nodi a rhannu arfer da. Gweld mwy
Cyhoeddiad Dull risg-seiliedig y GIG o reoli ôl-groniad o waith cynnal ... ‘ÔI-groniad' yw'r gwaith cynnal a chadw sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau bod cyflwr adeilad yn cael ei gadw ar safon penodol. Gweld mwy
Cyhoeddiad System Reoli Perfformiad Adnoddau ac Ystadau GIG Cymru - Yst... Sefydlwyd System Reoli Perfformiad Adnoddau ac Ystadau GIG Cymru (EFPMS) yn 2002. Mae'r system yn annog dynesiad disgybledig tuag at gasglu, rhannu ac adolygu data, ac yn cefnogi gwneud penderfyniadau strategol ar Iefel genedlaethol a Ileol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cronfa Ynni Ganolog y GIG - Ystadau lechyd Cymru Lansiwyd y Gronfa Ynni Ganolog (CYG) yn 2005 ac mae'n darparu cyllid o dros £3 miliwn i'r GIG yng Nghymru er mwyn ei alluogi i fuddsoddi mewn mentrau effeithlonrwydd cost isel a chanolog a thechnolegau carbon isel. Dros dair blynedd y rhaglen, cefnogwyd oddeutu 149 o gynlluniau unigol. Gyda'i gilydd mae'r prosiectau hyn wedi gwireddu arbedion carbon blynyddol - 13,400 o dunelli. Gweld mwy
Cyhoeddiad Gweithio gyda sefydliadau allanol i sicrhau arian ar gyfer g... Mae Cymru Gynnes Cyf (Cymru Gynnes) yn adeiladu ar y Model Parthau Cynnes mwyaf Ilwyddiannus a ddatblygwyd yn Stockton on Tees gan National Grid Transco (NGT) ac a gyflwynwyd ar ôl hynny i Redcar a Cleveland a Newcastle upon Tyne. Dechreuodd Cymru Gynnes, o dan arweiniad Rhaglen Cynhesrwydd Fforddiadwy NGT, ei brosiect tair blynedd cyntaf yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot yn 2004, ac yna yn Wrecsam yn 2005. Gweld mwy